Santes o'r 6ed oedd Melangell (Lladin: Monacella).

Melangell
Ganwyd7 g, 8 g Edit this on Wikidata
Iwerddon Edit this on Wikidata
Bu farw7 g, 8 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Powys Edit this on Wikidata
Man preswylPennant Melangell Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethlleian, meudwy, abades Edit this on Wikidata
Blodeuodd7 g, 8 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl27 Mai, 31 Ionawr Edit this on Wikidata
Rhan o'r allor yn 1795.
Gwaith pren yn dylunio chwedl Brochwel; cofnod inc, 1903

Hanes a thraddodiad

golygu

Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon ond bu yn ferch i Eithne Wyddelles a Cyfwlch Addfwyn, perthynas i Elen o Gaernarfon. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw yn unig ym mhen uchaf dyffryn Afon Tanad yn 590[1]. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai Brochwel Ysgithrog) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwrthodasant y cŵn mynd ymlaen; rhedasant i ffwrdd dan ubain. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn Bennant Melangell iddi.[1]

Daeth Melangell yn arweinydd cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath yng ngwledydd Prydain. Ymhen dwyreiniol yr eglwys mae cell fach hanr gron a elwir 'Cell y Bedd' Credir fod Melangell wedi claddu yno. Ail adeiladwyd y cell yn y 20g ar seiliau o'r 10g.

Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn yr Oesoedd Canol, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod a elwir "wyn bach Melangell" ym Maldwyn. Yn ail haner yr ugeinfed canrif, gyda diddordeb yn yr amgylchfyd yn tyfu daeth yn poblogaedd fel "nawddsantes" bywyd gwyllt yn cyfredinol.

Mae buchedd Ladin iddi, Historia Divae Monacellae, ar gael, yn dyddio o tua'r 15g. Ei dydd gŵyl yw 27 Mai.

Gweler hefyd

golygu

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Llyfryddiaeth

golygu

Llyfrau i blant

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Spencer, R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch

Dolenni allanol

golygu