Offeiriad Ffrisiaidd oedd yn arweinydd a diwygiwr yr ailfedyddwyr oedd Menno Simons (Iseldireg: Menno Simonszoon, Simons neu Simonsz,[1] Ffriseg: Minne Simens;[2] 149631 Ionawr 1561). Sefydlodd ei ddilynwyr yr Eglwys Fennonaidd neu'r Mennoniaid.

Menno Simons
Ganwyd1496 Edit this on Wikidata
Witmarsum Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 1561 Edit this on Wikidata
Bad Oldesloe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeventeen Provinces Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, offeiriad Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd yn Witmarsum, Fryslân, oedd yn y cyfnod yn rhan o'r Iseldiroedd Habsbwrgaidd ac yn dir gwrogaethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Ni wyddys llawer am ei blentyndod a'i deulu, ond yn sicr Simon oedd enw ei dad oherwydd tadenw yw Simons, yn ôl arfer y Ffrisiaid.[2] Daeth yn weinidog Pabyddol ym 1524, ond yn fuan datblygodd amheuon am ei eglwys. Cafodd ei ddylanwadu gan waith y diwygwyr Protestannaidd, yn enwedig Martin Luther, a'i ddealltwriaeth bersonol o'r Beibl. Gadawodd yr eglwys ym 1536 gan ddatgan nad oedd bellach yn credu i fedyddio babanod ac ambell agwedd arall y ddysgeidiaeth Gatholig. Cafodd ei fedyddio'n aelod o fudiad yr ailfedyddwyr, ac ym 1537 ei urddo'n oruchwyliwr (megis esgob).

Mudiad radicalaidd oedd yr ailfedyddwyr a gafodd eu herlid gan enwadau Cristnogol eraill, yn enwedig yn sgil Gwrthryfel Münster (1534–35). Pregethodd Menno athrawiaeth heddychlon yn yr Iseldiroedd, ond bu'n ffoi i'r Almaen ym 1544 wedi iddo gael ei gyhuddo o fod yn heretic. Wrth deithio ar draws y wlad honno am weddill ei fywyd, llwyddodd i ledaenu mudiad heddychlon yr ailfedyddwyr a'i gadw'n fyw yn wyneb erledigaeth grefyddol.[3]

Ym 1544 bu'n trafod a'r diwygiwr Pwylaidd Jan Laski yn Nwyrain Ffrisia, a threuliodd y cyfnod 1544–46 yn y Rheindir. Ymgartrefodd ger Oldesloe yn Holstein a sefydlodd wasg argraffu yno i gyhoeddi gweithiau ailfedyddiol. Parhaodd i deithio gan ymweld â'r Iseldiroedd a Danzig. Bu farw ger Lübeck, Holstein, ym 1561.[1]

Diwinyddiaeth golygu

Yn ôl yr athro Cornelius J. Dyck, arbenigwr ar hanes y Mennoniaid, nid oedd Menno yn ddiwinydd tra llafar ar ddysgeidiaeth yr ailfedyddwyr. Yn hytrach, fel cenhadwr a phregethwr roedd yn arweinydd crefyddol cryf.[1] Er nad oedd yn ddiwinydd nac athronydd gwych, dyfynodd yr ysgruthurau droeon gan ddarparu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau ailfedyddiol i'w ddilynwyr.[3] Ymddengys ei waith yn ddiflas ac yn bolemig, ond amlinellodd gredoau'r ffydd yn glir. Pwysleisiodd llwybr heddychlon yr enwad, ac ar ddiwedd ei fywyd cafodd ei ofidio gan ailfedyddwyr oedd yn dadlau dros ddisgyblaeth lem o fewn yr eglwys.[1]

Cred Menno taw adfywiad oedd gwir brawf y Cristion: adlewyrchiad o ffydd yn unig oedd bedyddiaeth a'r cymun ac nid oedd y seremonïau hyn yn gallu rhoddi gras ar ben eu hunain. Dysgodd ni chaniateir tyngu llw na gwasanaethu yn y fyddin neu'r llywodraeth yn ôl yr ysgrythur, ond dylid ufuddhau i ynadon oni bai iddynt roi gorchmynion sy'n anghytuno â'r Beibl.[3]

Ysgrifennodd nifer o bamffledi a llyfrau i esbonio athrawiaethau'r ailfedyddwyr, ac mae mwy na 40 ohonynt yn goroesi.[1] Y pwysicaf oll oedd Sylfaen yr Athrawiaeth Gristnogol, neu Lyfr y Sylfaen (1539).[3] Cyhoeddwyd casgliad o'i ysgrifau a phregethau dan yr enw Opera omnia theologica ym 1681.[4]

Nid Menno oedd sefydlwr y Mennoniaid, y mudiad sy'n dwyn ei enw, ond cafodd ei ddysgeidiaeth heddychlon effaith bwysig iawn ar yr enwad hwnnw.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Menno Simons. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Menno Simons. Christian Classics Ethereal Library. Adalwyd ar 28 Mai 2016.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Menno Simons. Encyclopedia of World Biography. Encyclopedia.com (2004). Adalwyd ar 28 Mai 2016.
  4. (Saesneg) Menno Simons. The Columbia Encyclopedia. Encyclopedia.com (2016). Adalwyd ar 28 Mai 2016.