Mercedes Capsir
Roedd Mercedes Capsir (20 Gorffennaf 1895 - 13 Mawrth 1969) yn ganwr opera soprano coloratwra uchel o Gatalwnia oedd yn cael ei chysylltu â rolau Eidalaidd ysgafn, fel Lucia a Gilda.[1]
Mercedes Capsir | |
---|---|
Ganwyd | Mercè Capsir i Vidal 3 Awst 1897 Barcelona |
Bu farw | 13 Mawrth 1969 Suzzara |
Label recordio | Fonotipia |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | soprano |
Bywyd a gyrfa
golyguGanwyd Mercedes Capsir yn Barcelona, yn yr un tŷ lle ganwyd soprano arall, Maria Barrientos, 12 mlynedd ynghynt. Roedd ei thad yn ganwr bariton yn y theatr a'i mam, Mercedes Tressols hefyd yn soprano operatig uchel ei pharch.[2] Astudiodd (piano, cyfansoddiad a llais) yn y Conservatori Superior de Música del Liceu, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Genora, ym 1913, fel Gilda yn Rigoletto, rôl y bydd yn parhau i fod â chysylltiad agos â hi trwy gydol ei gyrfa.
Ym 1916, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Liceu yn Barcelona, y Teatro Real ym Madrid, y Teatro Nacional de São Carlos yn Lisbon, y Teatro Colón yn Buenos Aires, yn ogystal ag yn Opera Paris ym 1917. Gilda oedd ei rôl gyntaf ym mhob un o'r tai opera hyn.
Digwyddodd ei début Eidalaidd ym Mologna, fel Rosina yn Il barbiere di Siviglia, ac yna Elvira yn I puritani, yn Fenis, gyferbyn â Giacomo Lauri-Volpi, ymddangosodd hefyd yn Rhufain, cyn cyrraedd La Scala ym Milan, ym 1924, eto fel Gilda, gyferbyn â'r bariton Carlo Galeffi a'r tenor Miguel Fleta, o dan arweiniad Arturo Toscanini.
Canodd Capsir yn Ewrop yn bennaf, ac mewn repertoire cyfyngedig iawn, roedd rolau eraill yn cynnwys: Amina yn La sonnambula, Lucia yn Lucia di Lammermoor, a Violetta yn La traviata. Cymerodd ran mewn perfformiadau o Il Re gan Giordano yn La Scala ym 1929.
Pan ail-agorodd Teatre Liceu, Barcelona ar ôl Rhyfel Cartref Sbaen Mercedes Capsir oedd seren ei opera cyntaf La Bohème.[3]
Ymddeolodd Capsir o'r llwyfan ym 1949, rhoddodd ei pherfformiad olaf yn y Liceu yn Barcelona, fel Carolina yn Il matrimonio segreto. Ar ôl ymadael a'r llwyfan bu'n athrawes gerdd.
Marwolaeth
golyguBu farw, yn 73 oed, yn Suzzara (Lombardi, yr Eidal). Claddwyd ei gweddillion yn Cementiri de Montjuïc Barcelona.[4]
Recordiau
golyguRecordiodd Mercedes Capsir, fersiynau cyflawn o Il barbiere di Siviglia a Rigoletto, gyferbyn â Riccardo Stracciari a Dino Borgioli ym 1928. Recordiodd hefyd y fersiynau disg cyntaf erioed o Lucia di Lammermoor a La traviata. Recordiodd y zarzuela Sbaenaidd "Marina" gan Arrieta mewn perfformiad a oedd hefyd yn cynnwys Hipolito Lazaro a Jose Mardones ar gyfer y Columbia Record Co.
Llyfryddiaeth
golygu- Alain Pâris, Dictionnaire des interprètes et de l'interpretation musicale au XX siècle (2 gyfrol), Éditions Robert Laffont (Bouquins, Paris 1982, 4ydd arg. 1995, 5ed Edn 2004).ISBN 2-221-06660-X
- Roland Mancini a Jean-Jacques Rouveroux, (gwreiddiau. H. Rosenthal a J. Warrack, argraffiad Ffrangeg), Guide de l'opéra, Les indispensables de la musique (Fayard, 1995).ISBN 2-213-01563-5ISBN 2-213-01563-5
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Arakelyan, Ashot (2013-07-20). "FORGOTTEN OPERA SINGERS : Mercedes Capsir (Soprano) Barcelona, Spain 1895 - Suzzara, Italy 1969)". FORGOTTEN OPERA SINGERS. Cyrchwyd 2021-02-26.
- ↑ "MERCEDES CAPSIR - CANCIÓN ESPAÑOLA - El Arte de Vivir el Flamenco". elartedevivirelflamenco.com. Cyrchwyd 2021-02-26.
- ↑ "Mercedes Capsir ên la nueva etapa del Liceu tras la guerra". Ópera Actual (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2021-02-26.
- ↑ "Mercedes Capsir (1895-1969) - Find A Grave..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-26.