Umberto Giordano
Cyfansoddwr o'r Eidal oedd Umberto Menotti Maria Giordano (28 Awst 1867 – 12 Tachwedd 1948).[1] Cyfansoddodd operâu yn bennaf.
Umberto Giordano | |
---|---|
Ganwyd | Umberto Menotti Maria Giordano 28 Awst 1867 Foggia |
Bu farw | 12 Tachwedd 1948 Milan |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Adnabyddus am | La cena delle beffe, Andrea Chénier (opera), Il re |
Arddull | opera |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganed yn Foggia yn Apulia, de'r Eidal, ac astudiodd o dan Paolo Serrao yng Nghonservatoire Napoli.[2] Ysgrifennwyd ei opera gyntaf, Marina, ar gyfer cystadleuaeth a hyrwyddwyd gan y cyhoeddwyr cerddoriaeth Casa Sonzogno ar gyfer yr opera un act orau, a gofir heddiw oherwydd ei bod yn nodi dechrau'r symudiad verismo Eidalaidd. Yr enillydd oedd Mascagni am ei Cavalleria rusticana. Gosodwyd Giordano, y cystadleuydd ieuengaf, yn chweched ymhlith saith deg tri o gynigion gyda'i Marina, gwaith a greodd ddigon o ddiddordeb i Sonzogno gomisiynu llwyfannu opera wedi'i seilio arno yn nhymor 1891-92.
Y canlyniad oedd Mala vita, opera verismo [3] graenus am labrwr sy'n addo diwygio putain os caiff ei wella o'r diciâu. Achosodd y gwaith hwn dipyn o sgandal pan berfformiwyd ef yn Teatro di San Carlo yn Napoli, ym mis Chwefror 1892. Chwaraeodd yn llwyddiannus yn Fienna, Prague a Berlin ac fe’i hail-ysgrifennwyd fel Il Voto ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mewn ymgais i godi diddordeb yn y gwaith eto.[4]
Rhoddodd Giordano cynnig ar bwnc mwy rhamantus gyda'i opera nesaf, Regina Diaz, gyda libreto gan Giovanni Targioni-Tozzetti a Guido Menasci (1894), ond roedd hwn yn fethiant, a gymerwyd oddi ar y llwyfan ar ôl dim ond ddau berfformiad.[5]
Symudodd Giordano i Milan a dychwelyd i verismo gyda'i waith mwyaf adnabyddus, Andrea Chénier (1896), yn seiliedig ar fywyd y bardd Ffrengig André Chénier.[6] Roedd Fedora (1898), yn seiliedig ar ddrama Victorien Sardou, yn cynnwys tenor ifanc o'r enw Enrico Caruso.[7] Roedd hefyd yn llwyddiant ac mae'n dal i gael ei berfformio hyd heddiw. Mae ei weithiau diweddarach yn llawer llai hysbys, ond fe'u hadfywir yn achlysurol ac yn achos La cena delle beffe (yn seiliedig ar y ddrama o'r un teitl gan Sem Benelli) a gydnabyddir gan gerddolegwyr a beirniaid gyda pheth parch.[8]
Bu farw ym Milan yn 81 mlwydd oed.[9]
Mae'r theatr bwysicaf yn ei dref enedigol, Foggia, wedi'i chysegru i Umberto Giordano. Mae sgwâr yn Foggia hefyd wedi'i enwi ar ei ôl ac mae'n cynnwys sawl cerflun sy'n cynrychioli ei weithiau enwocaf.[10]
Operâu
golygu- Marina (1888)
- Mala vita (21 Chwefror 1892, Teatro Argentina, Rhufain)
- Regina Diaz (5 Mawrth 1894, Teatro Mercadante, Napoli)
- Andrea Chénier (28 Mawrth 1896, Teatro alla Scala, Milan)
- Fedora (17 Tachwedd 1898, Teatro Lirico, Milan)
- Il Voto (adolygiad o Mala Vita) (6 Medi 1902, Teatro Bellini, Napoli)
- Siberia (19 Rhagfyr 1903, Teatro alla Scala, Milan, adfer. 1927) [11]
- Marcella (9 Tachwedd 1907, Teatro Lirico, Milan)
- Mese mariano (17 Mawrth 1910, Teatro Massimo, Palermo)
- Madame Sans-Gêne (25 Ionawr 1915, Opera Metropolitan, Efrog Newydd)
- Giove a Pompei(6 Gorffennaf 1921, Teatro La Pariola, Rhufain)
- La cena delle beffe (20 Rhagfyr 1924, Teatro alla Scala, Milan)
- Il re(12 Ionawr 1929, Teatro alla Scala, Milan)
- La festa del Nilo (anghyflawn)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Umberto Giordano | Italian composer". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-09-28.
- ↑ Amintore Galli (1892). Il Teatro illustrato e la musica popolare: Ritratti di maestri ed artisti celebri, vedute e bozzetti di scene, disegni di teatri monumentali, costumi teatrali, ornamentazioni, ecc., ecc. 12. E. Sonzogno. t. 66.
- ↑ "Verismo | Italian opera". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-28.
- ↑ Burton D. Fisher (2005). Andrea Chenier (Giordano) Mini Guide. Opera Mini Guide Series. Opera Journeys Publishing. t. 21. ISBN 9781930841550.
- ↑ Alfred Bates, James Penny Boyd, gol. (1909). Drama and Opera: The opera. Drama and Opera: Their History, Literature and Influence on Civilization, Athenian Society (London, England). 23-24. Athenian Society. t. 295.
- ↑ Matthew Boyden, Nick Kimberley (2002). Joe Staines (gol.). The Rough Guide to Opera (arg. illustrated). Rough Guides. t. 379. ISBN 9781858287492.
- ↑ Pierre Van Rensselaer Key, Bruno Zirato (1922). Enrico Caruso: A Biography. Little, Brown. t. 99.
- ↑ Anthony (Tony) Amato (2011). The Smallest Grand Opera in the World. Universe. t. 156. ISBN 9781450299176.
- ↑ Alan Riding, Leslie Dunton-Downer (2006). Eyewitness Companions: Opera. Penguin. t. 162. ISBN 9780756643904.
- ↑ Dana Facaros, Michael Pauls (2007). Bay of Naples & Southern Italy (arg. illustrated). New Holland Publishers. t. 240. ISBN 9781860113499.
- ↑ "Umberto Giordano — People — Royal Opera House". www.roh.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-28.