Actifydd cymdeithasol o Gymru sy’n codi ymwybyddiaeth o HIV ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol yw Mercy Ngulube (ganwyd 1998). Pan gafodd ei geni yng Nghaerdydd; roedd hi'n un o tua ugain o bobl yn unig oedd wedi’u geni yng Nghymru gyda HIV. Penderfynodd wneud hynny’n gyhoeddus pan oedd yn ei harddegau, ac ymroi i godi ymwybyddiaeth o'r firws.[1]

Cafodd Ngubule ei hethol yn gadeirydd Pwyllgor Ieuenctid Cymdeithas HIV y Plant pan oedd yn 16 oed a siaradodd yng Nghynhadledd Ryngwladol HIV yn Durban, De Affrica, yng Ngorffennaf 2016. Cyflwynwyd Gwobr Gwaddol Diana i Ngulube yn 2017 a rhoddodd TEDx Talk ar y testun ‘Generation Y: Entitled to Change’ ym mis Tachwedd y flwyddyn honno.[2] Siaradodd hefyd yng Nghynhadledd Ryngwladol AIDS a gynhaliwyd yn Amsterdam yn haf 2018.[3] Roedd Ngubule ei henwebu am Wobr Person Ifanc yng Ngwobrau Dewi Sant 2018. Bu’n astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi hynny ym Mhrifysgol Caerlŷr, ac enillodd Wobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn am ‘Weithredu Cymdeithasol Effeithiol’ yn 2018.[4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "The teenager with HIV fighting for change". BBC News (yn Saesneg). 15 Chwefror 2018. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2020.
  2. "Mercy Ngulube - 'Generation Y: Entitled to Change' TEDx".
  3. "'Entitled to make a change', AimeMentoring". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-19. Cyrchwyd 2020-07-18.
  4. "Llywodraeth Cymru - Gwobrau Dewi Sant". Cyrchwyd https://gov.wales/st-david-awards/mercy-ngulube. Check date values in: |access-date= (help)
  5. "undergraduateoftheyear.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-18. Cyrchwyd 2020-07-18.