Hwyaden ddanheddog

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Mergus merganser)
Hwyaden ddanheddog
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Mergus
Rhywogaeth: M. merganser
Enw deuenwol
Mergus merganser
Linnaeus, 1758

Mae'r Hwyaden ddanheddog (Mergus merganser) yn hwyaden fawr sy'n eithaf cyffredin ar afonydd a llynnoedd ar draws Ewrop, gogledd Asia a Gogledd America.

Mae nifer o is-rywogaethau:

  • M. m. merganser, yn Ewrop
  • M. m. orientalis, Canol Asia
  • M. m. americanus, Gogledd America

Mae'r Hwyaden ddanheddog yn defnyddio tyllau mewn coed, yn agos i lan llyn neu afon, i nythu. Pysgod yw'r prif fwyd, ac maent yn eu dal trwy nofio ar eu holau o dan y dŵr. Mae ganddynt "ddannedd" ar hyd ymyl y pig sy'n ei gwneud yn haws iddynt ddal gafael ar bysgodyn, ac o hyn y daw'r enw. Gallant hefyd fwyta creaduriaid bychain eraill, ac mae'r cywion yn bwyta pryfed yn bennaf. Mae'r Hwyaden ddanheddog yn aderyn mudol yng Ngogledd America a gogledd Ewrop ac Asia, yn symud tua'r de i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop mae'n aros yn ei unfan trwy'r flwyddyn, er eu bod yn aml yn symud i lawr yr afon tua'r aber yn y gaeaf.

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd, gyda'i ben du a'r rhan fwyaf o'r corff yn wyn. Mae'n rhaid bod yn fwy gofalus i wahaniaethu rhwng yr iâr a iâr Hwyaden frongoch, gan fod y ddwy yn llwyd gyda pen browngoch. Ffordd dda i wahaniaethu rhyngddynt yw edrych ar y gwddf. Ar yr Hwyaden ddanheddog mae'r lliw browngoch yn gorffen mewn llinell syth, gyda lliw llwyd y corff oddi tano. Ar iâr Hwyaden Frongoch mae'r lliw browngoch yn ymdoddi'n raddol i'r lliw llwyd. Mae'r Hwyaden ddanheddog hefyd yn aderyn mwy o dipyn.

Mae'r Hwyaden ddanheddog yn aderyn gweddol gyffredin ar afonydd a llynnoedd Cymru, yn enwedig yn y gogledd, ac mae'r niferoedd sy'n nythu yma wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.