Meritxell Borràs i Solé

Gwleidydd a fferyllydd o Gatalwnia yw Meritxell Borràs (ganwyd 12 Ebrill 1964). Bu'n 'Weinidog dros Llywodraethiant a'r Berthynas rhwng Sefydliadau' o Fehefin 2015 hyd at hydref 2017, pan gafodd ei gwahardd o'i swydd gan Lywodraeth Sbaen, wedi i Lywodraeth Catalwnia gyhoeddi Datganiad o Annibynniaeth ar 27 Hydref 2017.

Meritxell Borràs i Solé
GanwydMeritxell Borràs i Solé Edit this on Wikidata
12 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
l'Hospitalet de Llobregat Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, fferyllydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Catalwnia, Hospitalet de Llobregat city councillor, Gweinidog dros Llywodraethiant a'r Berthynas rhwng Sefydliadau, conseller de Governació i Relacions Institucionals, Aelod o Senedd Catalwnia, Dirprwy Cyngor Rhabarthol Barcelona, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolConvergència Democràtica de Catalunya, Plaid Ddemocrataidd Ewropeaidd Catalwnia, Junts per Catalunya Edit this on Wikidata
TadJacint Borràs i Manuel Edit this on Wikidata

Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015, safodd dros y glymblaid Junts pel Sí (JxSí).

Magwraeth a choleg golygu

Fe'i ganwyd ym 1964 yn L'Hospitalet de Llobregat. Graddiodd ym Mhrifysgol Barcelona cyn gweithio fel fferyllydd. Cefnogodd annibyniaeth Catalwnia ers yn ifanc, a bu'n aelod o Gymdeithas Iuenctid Cenedlaethol Catalwnia tra'n fyfyriwr. Fe'i hetholwyd i Dinesig L'Hospitalet de Llobregat a Senedd Catalonia ym 1995.

Gwleidyddiaeth a charchar golygu

Ar 1 Hydref 2017 cynhaliwyd Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia, er gwaethaf dyfarniad y Llys Cyfansoddiadol Sbaen ei fod yn groes i'r cyfansoddiad. Diddymwyd Arlywyddiaeth y Generalitat, a phob swydd yn Llywodraeth Catalwnia, gan gynnwys swydd Borràs.[1]

Yn Nhachwedd 2017 cyhuddwyd 8 aelod o'r Llywodraeth o Wrthryfel: Meritxell Borràs, Josep Rull, Oriol Junqueras, Jordi Turull, Carles Mundó, Raül Romeva, Dolors Bassa, Joaquim Forn a Santi Vila.[2][3][4].

Ar 30 Hydref 2017 daethpwyd â chyhuddiadau o wrthryfel, annog gwrthryfel (sedition) a chamddefnyddio arian cyhoeddus (neu "embesliad") yn erbyn Borràs ac aelodau eraill o Lywodraeth Catalwnia. Ffodd Borràs ac Arlywydd y wlad Carles Puigdemont, ynghyd ag eraill, i Wlad Belg, ond dychwelodd Borràs i Gatalwmia. Ar 2 Tachwedd 2017 cafodd Borràs a saith gweinidog Catalaneg eraill eu cadw yn y ddalfa gan yr Audiencia Nacional. Cafodd chwech o'r gweinidogion, gan gynnwys Borràs, eu rhyddhau ar fechnïaeth ar 4 Rhagfyr 2017.

Ar 23 Mawrth 2018, fe gorchmynodd barnwr Uchel-Lys Sbaen orchymyn y dylai Borràs sefyll o flaen ei gwell am anufudd-dod ac embesliad. Cyhoeddodd y barnwr hefyd y byddai'n rhaid iddi hi a'r diffynyddion erailll dalu costau'r llys, sef €2.1 miliwn.[5][6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Orden PRA/1034/2017, de 27 de octubre, por la que se publica el Acuerdo del Consejo de Ministros de 21 de octubre de 2017, por el que, en aplicación de lo dispuesto en el artículo 155 de la Constitución, se tiene por no atendido el requerimiento planteado al M. H. Sr. Presidente de la Generalitat de Cataluña, para que la Generalitat de Cataluña proceda al cumplimiento de sus obligaciones constitucionales y a la cesación de sus actuaciones gravemente contrarias al interés general, y se proponen al Senado para su aprobación las medidas necesarias para garantizar el cumplimiento de las obligaciones constitucionales y para la protección del mencionado interés general. Nodyn:Es icon
  2. La Fiscalía pide prisión incondicional para Junqueras y siete exconsellers de Puigdemont y fianza a Santi Vila Nodyn:Es icon
  3. La Audiencia cita el jueves y viernes a Puigdemont y sus exconsellers para declarar por rebelión Nodyn:Es icon
  4. Spanish judge jails eight members of deposed Catalan government
  5. Berwick, Angus (23 Mawrth 2018). "Spain to try Catalan separatist leaders for rebellion". Reuters. London, U.K. Cyrchwyd 31 Mawrth 2018.
  6. "Thirteen Catalan politicians charged with rebellion". The National. Glasgow, U.K. 23 Mawrth 2018. Cyrchwyd 31 Mawrth 2018.