Michael Herr
Newyddiadurwr ac awdur Americanaidd oedd Michael David Herr (13 Ebrill 1940 – 23 Mehefin 2016).[1] Roedd yn ohebydd yn Rhyfel Fietnam ac ysgrifennodd y llyfr Dispatches (1977) am ei brofiad.[2] Cyd-ysgrifennodd y sgriptiau am Apocalypse Now a Full Metal Jacket.[3]
Michael Herr | |
---|---|
Ganwyd | Michael David Herr 13 Ebrill 1940 Lexington |
Bu farw | 23 Mehefin 2016 Delhi |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, sgriptiwr, awdur, gohebydd rhyfel, gohebydd gyda'i farn annibynnol, llenor, nofelydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Dispatches |
Mudiad | New Journalism |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd yn Lexington, Kentucky, yn fab i Donald Herr a Muriel Herr, Jacobs gynt, ac roedd ganddo frawd, Steven, a chwaer, Judy.[1] Symudodd y teulu i Syracuse, Efrog Newydd, ac yno bu ei dad yn gweithio'n gemydd. Disgrifiodd Michael ei hunan yn "fachgen Iddewig, addysgedig, dosbarth-canol hoffus a chanddo pob tic ac alergedd posib".[4] Mynychodd Prifysgol Syracuse ac ysgrifennodd i'r cylchgrawn llenyddol a olygwyd gan Joyce Carol Oates. Gadawodd y brifysgol yn fuan i deithio'r byd gan efelychu ei hoff lenorion megis Ernest Hemingway.
Newyddiadurwr a gohebydd
golyguAr ôl crwydro Ewrop am flwyddyn, cafodd Herr ei gyflogi'n feirniad ffilm gan y cylchgrawn adain-chwith New Leader. Collodd ei swydd, yn ôl ei gyffes ei hun, "am hoffi pob un ffilm anghywir". Gwasanaethodd yn y Fyddin Wrth Gefn a ysgrifennodd adroddiadau taith i'r cylchgrawn Holiday. Awgrymodd i'w gyfaill Harold Hayes, golygydd y cylchgrawn Esquire, iddo ysgrifennu colofn fisol o Fietnam. Teithiodd i ardal y brwydro ar hofrenyddion y fyddin, gan holi'r milwyr yn y maes ac hyd yn oed ymladd yn erbyn y Vietcong yn Aberdir Mekong. Ei drefn wrth ddychwelyd o ymgyrch hir oedd i aros yn ei ystafell ac ysmygu canabis ac ysgrifennu nodiadau am ei brofiadau. Nid oedd yn ohebydd cynhyrchiol a ni chyhoeddid lawer o'i waith.[4] Treuliodd Herr ddwy mlynedd yn Fietnam ar anterth y rhyfel (1967–69), adeg Gwarchae Khe Sanh ac Ymosodiad Tet.[1]
Dispatches
golyguCyn i Herr adael Fietnam, dywedodd y ffotograffydd Sean Flynn iddo i beidio â cholli'r cyfle i adrodd y rhyfel drwy falu awyr mewn "partïon coctel ym Manhattan".[4] Wedi iddo ddychwelyd i Efrog Newydd, ymdrechodd Herr i roi ei brofiadau ar bapur. Ysgrifennodd y mwyafrif o'r llyfr mewn 18 mis cyn iddo ddioddef waeledd meddyliol ym 1971 a barodd am dair neu bedair mlynedd.[5] Er y straen ac iselder yn ei fywyd, llwyddodd i greu gwaith sy'n gofiant ac yn newyddiaduraeth yn rhannol ond hefyd yn cynnwys storïau gwneud a dychmygion sy'n ychwanegu at ddigwyddiadau go iawn. Mae'r llyfr yn llawn golygfeydd erchyll a galarus, yn ogystal â threfn bob dydd y milwr a'r gohebydd, a llwydda Herr i ddarlunio anhrefn y rhyfel yn fanwl.[4] Hunllef tanbaid yw'r canlyniad sy'n llawn sgwrs, trais a marwolaeth, cyffuriau, a cherddoriaeth roc sy'n adlewyrchu awyrgylch swreal y rhyfel a gwrthddiwylliant y 1960au. Mae'r gwaith yn nodweddiadol o newyddiaduraeth oddrychol y cyfnod ac yn dangos taw un o hoelion wyth mudiad y Newyddiaduraeth Newydd oedd Herr.[6]
Cyhoeddwyd Dispatches ym 1977, dwy mlynedd wedi diwedd y rhyfel, gan ddenu clod eang. Roedd yn un o'r ychydig o lyfrau i ymdrin â phrofiad diweddar, crai Rhyfel Fietnam ar gyfer y cyhoedd Americanaidd. Canmoliaeth y nofelydd John le Carré sy'n addurno argraffiadau hwyrach o'r llyfr: "the best book I have ever read on men and war in our time". Barn y beirniad toreithiog John Leonard oedd fel a ganlyn: "beyond politics, beyond rhetoric, beyond ‘pacification’ and body counts and the ‘psychotic vaudeville’ of Saigon press briefings. . . . It is as if Dante had gone to hell with a cassette recording of Jimi Hendrix and a pocketful of pills: our first rock-and-roll war, stoned murder." Er yr oedd Herr yn fodlon o lwyddiant ei gampwaith, nid oedd yn hoff o'i enwogrwydd newydd ac am weddill ei oes ceisiodd osgoi trafod ei brofiadau ymhellach. Ystyrir y llyfr yn un o'r croniclau gorau ar bwnc rhyfel ac yn enghraifft o gelfyddyd newyddiadurol.[4]
Sgriptio ffilmiau
golyguEr yr oedd yn amharod i ymhelaethu'n bellach ar ei ryfel personol, bu Herr yn gweithio ar ddwy ffilm ffuglennol oedd yn ymwneud â Fietnam. Ysgrifennodd yr adroddiant a draethir gan gymeriad Martin Sheen yn Apocalypse Now (1979). Roedd y ffilm honno'n seiliedig ar y nofel Heart of Darkness gan Joseph Conrad, ond adlewyrchir nodweddion Dispatches gan iaith sinematig y cyfarwyddwr Francis Ford Coppola.[5]
Bu Herr yn cwrdd â chyfarwyddwr ffilm arall, Stanley Kubrick, trwy John le Carré. Daeth Herr a Kubrick yn gyfeillion oedd yn hoff o drafod llenyddiaeth ar y ffôn. Dymunodd Kubrick i Herr sgriptio ffilm am yr Holocost, ond yn y pen draw Fietnam oedd y pwnc unwaith eto. Addaswyd y nofel hunangofiannol The Short-Timers gan Kubrick, Herr, a'i hawdur Gustav Hasford i greu'r sgript ar gyfer Full Metal Jacket (1987).[5]
Yn y 1990au gweithiodd Herr fel ailwampiwr di-glod am sgriptiau Hollywood. Gofynnodd Kubrick iddo "wenieithio'r" sgript ar gyfer Eyes Wide Shut (1999). Cyhoeddodd Herr dri llyfr arall: The Big Room (1987), casgliad o fywgraffluniau o sêr oes aur Hollywood; Walter Winchell (1990), nofel fywgraffyddol am y colofnydd clecs a darlledwr Walter Winchell; a Kubrick (2000), cofiant o'i gyfaill.
Bywyd personol
golyguPriododd Valerie Elliott ym 1977, a chafodd ddwy ferch, Claudia a Catherine.[4] Symudodd i fyw yn Llundain ym 1980,[5] ond dychwelodd i'r Unol Daleithiau ym 1990. Roedd yn dilyn Bwdaeth Dibetaidd, gan fyfyru er mwyn ymdopi â'i gofion o Fietnam. Bu farw Michael Herr ger ei gartref yn Delhi, Efrog Newydd, yn 76 oed.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Bruce Weber (24 Mehefin 2016). Michael Herr, Author of a Vietnam Classic, Dies at 76. The New York Times. Adalwyd ar 27 Mehefin 2016.
- ↑ (Saesneg) Michael Herr, Dispatches (Knopf, 1977). Prifysgol Efrog Newydd. Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Michael Herr. Heath Anthology of American Literature. Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 (Saesneg) Adam Bernstein (24 Mehefin 2016). Vietnam War reporter Michael Herr, who helped write ‘Apocalypse Now’ and ‘Full Metal Jacket,’ dies at 76. The Washington Post. Adalwyd ar 27 Mehefin 2016.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 (Saesneg) Michael Herr, writer – obituary. The Daily Telegraph (26 Mehefin 2016). Adalwyd ar 27 Mehefin 2016.
- ↑ (Saesneg) American literature: Literary and social criticism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Mehefin 2016.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Ysgrif goffa yn The Paris Review