Microceffali

afiechyd bodau dynol

Arwydd neu rybudd pendant o afiechyd niwrolegol yw microceffaliy, ond oherwydd nad yw gwyddoniaeth hyd yma'n ei ddeall yn iawn, nid oes un diffiniad absoliwt o'r afiechyd, hyd yma (2016). Mae microceffali fel arfer yn cyfeirio at benglog llai na'r cyffredin.[1][2]

Microceffali
Penglog normal (chwith) ac achos o microceffali (dde)
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol
ArbenigeddGeneteg meddygol
Meddygaeth genynnol
ICD-ICD-10Q02.
ICD- 9742.1
OMIM251200
Afiechydon22629
MedlinePlus003272
MeSHD008831

Gall fod yn gynhwynol (h.y wedi ei amlygu cyn yr enedigaeth) neu fe all ddatblygu wedi'r enedigaeth. Mae'n bosibl fod penglog llai na'r cyffredin yn digwydd gan nad yw'r ymennydd wedi datblygu i'w lawn dwf, neu o syndrom a gysylltir gyda chromosomau abnormal. Mae bosibl mai mwtad homozygous o fewn un o'r genynnau microceffalin sy'n achosi microceffali.

Wedi i'r Unol Daleithiau America ffrwydro bomiau atomig "Little Boy" ar Hiroshima a "Fat Man" ar Nagasaki, esgorodd nifer o ferched ar blant a oedd yn dioddef o microceffali.[3] Microceffali yw'r unig 'afiechyd' genynnol a ganfyddwyd ym mhlant Hiroshima a Nagasaki.[4][4] Yn Ionawr 2016 credid bod cysylltiad rhwng y firws Zika (a achosodd Epidemig 2015-2016 a phlant a anwyd gyda microceffali. Cludir y firws i ferched beichiog gan y mosgito Aedes aegypti ac eraill a thrwy ryw.[5][6][7]

Symtomau golygu

 
Babi gyda Microceffali (chwith) o'i gymharu gyda babi gyda phenglog normal ar y dde.

Mae'r plentyn newyddanedig sydd â microceffali arno yn amlwg yn wahanol, o ran siap ei ben. Yn sgil hyn mae diffygion deallusol yn gyffredin. Effeithir symudiadau hefyd, ymhen hir a hwyr. Er gwaetha cyfyngiad ym maint siap y pen, mae'r wyneb yn parhau i dyfu'n normal, heb lawer o dalcen. Yn ystod glasoed, mae cymhareb pen/taldra'r corff yn cael ei hamlygu h.y. mae'n fwyfwy amlwg fod y pen yn llai nag arfer; gall ymdebygu i gorrach. Yn aml, mae llafaredd yn datblygu'n hwyrach nag arfer.

Geirdarddiad golygu

Daw'r gair o'r Lladin Newydd microceffalia, sydd a'i wreiddiau yn yr Hen Roeg μικρός mikrós "bach" a κεφαλή kephalé "pen"[8]). Ystyr llythrennol "microencephaly" felly yw "pen bach".[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. Leviton, A.; Holmes, L. B.; Allred, E. N.; Vargas, J. (2002). "Methodologic issues in epidemiologic studies of congenital microcephaly". Early Hum Dev 69 (1): 91–105. doi:10.1016/S0378-3782(02)00065-8.
  2. Opitz, J. M.; Holt, M. C. (1990). "Microcephaly: general considerations and aids to nosology". J Craniofac Genet Dev Biol 10 (2): 75–204. PMID 2211965.
  3. "Aftereffects". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-25. Cyrchwyd 2016-02-07.
  4. 4.0 4.1 "Teratology in the Twentieth Century Plus Ten".
  5. "Zika virus - Brazil: confirmed Archive Number: 20150519.3370768". Pro-MED-mail. International Society for Infectious Diseases.
  6. "CDC issues interim travel guidance related to Zika virus for 14 Countries and Territories in Central and South America and the Caribbean". Centers for Disease Control and Prevention. 2016-01-15. Cyrchwyd 2016-01-17.
  7. Beth Mole (2016-01-17). "CDC issues travel advisory for 14 countries with alarming viral outbreaks]". Ars Technica. Condé Nast. Cyrchwyd 2016-01-17.
  8. "Microcephaly - Definition of Microcephaly by Merriam-Webster".
  9. David D. Weaver; Ira K. Brandt (1999). Catalog of prenatally diagnosed conditions. JHU Press. t. 104. ISBN 978-0-8018-6044-7. Cyrchwyd 25 Mawrth 2012.

Dolenni allanol golygu