Ofydd
Roedd Publius Ovidius Naso, neu Ofydd (20 Mawrth 43 CC–17 OC), yn fardd Lladin ac awdur Rhufeinig. Ysgrifennodd yn bennaf am serch a mytholeg glasurol.
Ofydd | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mawrth 43 CC Sulmona |
Bu farw | Tomis |
Man preswyl | Constanța |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | bardd, llenor, mythograffydd, marwnadwr |
Adnabyddus am | Metamorphoses, Heroides, Ibis |
Arddull | tragedy, elegy, arwrgerdd |
Fe'i ganwyd yn Sulmona, yr Eidal, yn fab i eques. Cafodd ei addysg yn Nhrufain.
Ei gampwaith yw'r Metamorphoses ('Trawsffurfiadau'), sef cerdd 15 llyfr o hyd yn adrodd hanes y byd fel cyfres o gyfnewidiadau. Rhai o'r hanesion enwocaf yw hwnnw am y duw Apollo yn troi ei gariad Daphne yn lawryfen a'r un am Narcissus yn cael ei droi'n flodyn (y cenhinen bedr) ar ôl syllu ar ei adlewyrchiad yn y dŵr am gyfnod hir.
Drwy'r Canol Oesoedd a'r Dadeni Dysg dyma oedd y gwaith llenyddol mwyaf poblogaidd yn yr iaith Ladin ac mae wedi gadael ôl sylweddol ar lenyddiaeth y Gorllewin, o William Shakespeare (roedd hanes trasig y cariadon Pyramus a Thisbe yn ysbrydoliaeth ar gyfer Romeo and Juliet) i Saunders Lewis (a ysgrifennodd gyfieithiad farddonol o'r un stori, Puraf a Thisbe).
Gweithiau gan Ofydd sydd wedi goroesi
golygu- (10 CC) Amores
- (5 CC) Heroides neu Epistulae Heroidum
- (5 CC) Remedium Amoris
- (5 CC) Medicamina Faciei Femineae
- (2 CC) Ars Amatoria
- (8 OC) Metamorphoses
- (9 OC) Ibis
- (10 OC) Tristia
- (10 OC) Epistulae ex Ponto
- (12 OC) Fasti