Mike Jenkins
bardd (1953- )
Bardd, nofelydd a llenor straeon byrion o Gymru ydy Mike Jenkins (ganed 1953). Ganed yn Aberystwyth, addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru.[1]
Mike Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 1953 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | Bethan Sayed, Ciaran Jenkins |
Gwobr/au | Gwobr Eric Gregory |
Mae'n dad i'r gwleidydd Bethan Sayed(ganed Jenkins) a'r newyddiadurwr Ciaran Jenkins.
Mae'n gyn-olygydd y cylchgrawn Poetry Wales a golygydd tymor hir o Red Poets. Bu'n dysgu Saesneg yn Ysgol Gyfun Radur, ger Caerdydd am bron i ddegawd. Mae'n byw yn Merthyr Tudful ers dros 30 mlynedd.[1]
Cydweithiodd Jenkins yn 2011 - 2012 gyda'r artist Gustavius Payne ar gyfres o arddangosfeydd ledled Cymru dan y teitl "Dim Gobaith Caneri", gan ddefnyddio idiomau Cymraeg fel ysbrydoliaeth (Cefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru).[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-14. Cyrchwyd 2012-12-17.
- ↑ http://www.golwg360.com/archif/28728-dim-gobaith-caneri-ac-idiomau-eraill
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/showbiz-and-lifestyle/showbiz/2011/08/19/a-mine-of-information-91466-29266079/
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2011-10-06 yn y Peiriant Wayback