Michael Gustavius Payne
Arlunydd o Gymru yw Gustavius Payne (ganwyd Michael Gustavius Payne, 25 Mehefin 1969), sy'n defnyddio symboliaeth celf y gorllewin a mytholeg, ynghyd â phethau cyfoes, i greu paentiadau (paent olew fel rheol) o naws swreal.
Michael Gustavius Payne | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mehefin 1969 Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwefan | https://www.guspayne.com/ |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Payne ym Merthyr Tudful ac fe'i magwyd ar ystad Y Gurnos. Mynychodd Ganolfan Celf Dylunio a Thechnoleg Morgannwg Ganol ym Mhontypridd (rhan o Brifysgol Morgannwg erbyn hyn) rhwng 1991 ac 1993, lle enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 1993. Yn dilyn hyn fe gynhwysodd rhaglen celf y BBC, The Slate, erthygl amdano yn ei rhaglen Eisteddfod Special yn 1993. Aeth ymlaen i atudio yng Ngholeg Addysg Uwch Cheltenham a Chaerloyw (Prifysgol Swydd Gaerloyw erbyn hyn) hyd 1996, gan ennill gradd Baglor y Celfyddydau dosbarth cyntaf ym maes celfyddyd gain a phaentio. Yn ystod ei gyfnod yn Cheltenham, enillodd Payne le ar raglen ERASMUS a alluogodd ef i ymweld a nifer o safleoedd hynafol mytholegol a hanesyddol yng Ngwlad Groeg fel myfyriwr cyfnewid yn Ysgol Celfyddyd Gain Athen. Enillodd wobr "Art Purchase" y Cheltenham & Gloucester Building Society ym 1996, cyn dychwelyd i Gymru. Symudodd i Gaerdydd i ddechrau, cyn mynd i fyw i Ddowlais ym 1999.
Cydweithiodd Payne yn 2011 - 2012 gyda'r bardd a'r awdur Mike Jenkins ar gyfres o arddangosfeydd ledled Cymru dan y teitl "Dim Gobaith Caneri", gan ddefnyddio idiomau Cymraeg fel ysbrydoliaeth (Cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru).[1][2]
Mae'n aelod o'r Grŵp Cymreig ers Ebrill 2013.[3]
Arddangosfeydd
golygu- 1996 Crows Having Fun, Raw Gallery, Tower Bridge, Llundain
- 1997 Princeton International Art Exhibition', Palmer Square, New Jersey, Unol Daleithiau America
- 2001 Dreams, Fairy Tales, Myths & Nightmares, Washington Gallery, Penarth
- 2002 Contemporary Welsh Art, Beatrice Royal Gallery, Hampshire, Lloegr
- 2004 Nature or Nurture, West Wales Arts Centre, Abergwaun
- 2006 Stories without Narrative, Parc Treftadiaeth Rhondda
- 2007 Museum of Modern Art Cymru Machynlleth.
- 2008 A Bloke Called Hero, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
- 2008 Galeri, Betws-y-coed (gyda Meri Wells a Maria Hayes)
- 2011 - 2012 Dim Gobaith Caneri (Mae arddangosfa ar y cyd â’r bardd a’r awdur Mike Jenkins), Castell Cyfarthfa, Y Tabernacl (MoMA Cymru), Oriel Washington a West Wales Arts Centre.
- 2012 Celfwaith Newydd, Ffin-y-Parc, Llanrwst, Conwy (sir)
Cyhoeddiad
golyguFfynonellau
golygu- Ellis, Geraint (Cynhyrchydd) (2008), Sioe Gelf, rhaglen 14, Cwmni Da, 05/11/08 ar S4C.
- Payne, MG (2008), 'Looking For A Hero', Welsh Art Now, Rhifyn 1, tud. 32 - 35.
- Jones, Huw David (2008), Myths, Folklore & Fairytale explores hopes, truths and desires, Metro.co.uk, (7.8.08).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan yr arlunydd
- (Saesneg) Bas-data Axis
- Sioe Gelf Archifwyd 2011-07-17 yn y Peiriant Wayback
- Golwg 360