Mil ac un o nosweithiau

(Ailgyfeiriad o Mil ac un o Nosweithiau)

Casgliad o straeon o'r Dwyrain Canol ac India yw Mil ac un o nosweithiau (Arabeg: كتاب ألف ليلة وليلة - kitāb 'alf layla wa-layla; Perseg: هزار و یک شب - Hezār-o yek šab). Casglwyd y straeon dros gyfnod o ganrifoedd gan awduron, cyfieithwyr ac ysgolheigion mewn nifer o wledydd. Ceir straeon sydd a'i tarddiad yn Arabia a Yemen, India, Asia Leiaf, yr Hen Aifft, Persia, Mesopotamia a Syria. Dyddia'r llawysgrif Arabeg gynharaf sydd wedi ei chadw o'r 14g, ond credir fod y casgliad ei hun yn dyddio o tua 800-900 CC.

Scheherazade yn adrodd ei straeon i'r Brenin Shahryār (Persia, 19eg ganrif).

Y stori a ddefnyddir fel fframwaith i'r casgliad yw hanes am y brenin Shahryar a'i frenhines Scheherazade, sy'n adrodd y straeon. Daeth y casgliad yn adnabyddus yn y gorllewin wedi iddo gael ei gyfieithu i'r Ffrangeg yn ystod y 19g. Nid oedd amryw o'r straeon mwyaf poblogaidd yn y gorllewin, megis hanesion Aladdin a Sinbad y Llongwr, yn rhan o'r casgliad Arabeg gwreiddiol, er eu bod yn chwedlau gwerin dilys o'r Dwyrain Canol a ymgorfforwyd yn y casgliad gan y cyfieithwyr cynnar.

Cyfieithiad Cymraeg

golygu

Darllen pellach

golygu
  • Irwin, Robert. The Arabian Nights: A Companion (Efrog Newydd: Tauris Parke, 2004).
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: