Mirain Llwyd Owen
Actores, awdures ac ymgyrchydd o Gymru oedd Mirain Llwyd Owen (1973 – 13 Ionawr 2021). Roedd yn adnabyddus am chwarae Delyth Haf, y prif gymeriad yng nghyfres deledu Tydi Bywyd yn Boen ac fel awdur sgriptiau sawl drama Gymraeg ar S4C.
Mirain Llwyd Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1973 Bangor |
Bu farw | 13 Ionawr 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, llenor, ymgyrchydd iaith |
Tad | Gerallt Lloyd Owen |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i ganwyd ym Mangor yn ferch i Alwena a'r prifardd Gerallt Lloyd Owen ac fe'i magwyd yn Llandwrog gyda'i brawd a chwaer, Bedwyr a Nest.[1]
Mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon. Aeth ymlaen i astudio Llenyddiaeth Cymraeg a Llên y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.
Gyrfa
golyguYn bymtheng mlwydd oed, cafodd ei hannog gan ei hathro Cymraeg i fynd am glyweliad ar gyfer Tydi Bywyd yn Boen. Enillodd y brif ran o Delyth Hâf yn yr addasiad teledu o'r nofel i bobl ifanc gan Gwenno Hywyn. Darlledwyd y gyfres yn 1990 a dychwelodd Mirain i'r rhan yn y gyfres Tydi Coleg yn Grêt yn 1993. [2]
Wedi gadael y coleg chwaraeodd ran Nyrs Anwen Jones tros saith cyfres o'r ddrama Pengelli rhwng 1995 a 2001. Bu hefyd yn actio mewn cyfresi drama eraill ar S4C fel Talcen Caled, gan chwarae Dorcas yn Y Stafell Ddirgel a Jo yn Rownd a Rownd.[3] Yn 2000 penderfynodd Mirain fynd ar gwrs sgriptio o dan y cynllun Cyfle. Aeth ymlaen i sgriptio nifer o gyfresi drama poblogaidd y sianel gan ddechrau ar Rownd a Rownd. Cafodd wahoddiad i fod yn un o driawd i sgriptio cyfres olaf Amdani ac aeth ymlaen i fod yn un o dîm sgriptio Tipyn o Stad. Bu hefyd yn sgriptio i Bobol y Cwm am dros ugain mlynedd.
Bywyd personol
golyguRoedd yn ymgyrchydd brwd dros annibynniaeth i Gymru. Hi oedd aelod rhif 24 o'r mudiad YesCymru a bu'n gwasanaethu ar eu Pwyllgor Canolog yn 2019.
Cyn ei marwolaeth, priododd ei phartner o dros ugain mlynedd, Tim Walker.[4]
Marwolaeth a theyrngedau
golyguYn 47 mlwydd oed, bu farw yn ei chartref ym Mryn Hyfryd, Caeathro, wedi salwch byr. Cynhaliwyd ei hangladd ar brynhawn Gwener, 22 Ionawr 2021 gyda gwasanaeth cyhoeddus ym Mynwent Llandwrog am hanner dydd.
Cafwyd sawl teyrnged iddi gan gydweithwyr. Dywedodd Nest Gwenllian Roberts, Cynhyrchydd Cyfres Pobol y Cwm, ei bod hi wastad yn bleser gweithio gyda Mirain. “Yn awdur cydwybodol, roedd hi’n meddwl yn ddwys am bob gair ac er yn dawel, roedd hi’n angerddol tu hwnt,” meddai.
Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, Amanda Rees - "Bydd portread Mirain o Delyth Haf, prif gymeriad “Tydi Bywyd yn Boen” a “Tydi Coleg yn Grêt” yn rhan o atgofion ieuenctid nifer fawr o wylwyr S4C ... Mae colli Mirain mor gynnar yn golled i deledu yn gyffredinol ond yn golled enfawr i’w theulu a’i ffrindiau. Cydymdeimlwn yn fawr gyda Tim a’r teulu oll yn eu colled.”
Cyhoeddwyd neges ar gyfrif Twitter YesCymru, yn dweud "Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a chyfeillion Mirain Llwyd Owen a fu farw heddiw. ... Mae’r newyddion creulon yma’n ein hysgogi fwy i ymladd dros Gymru Rydd – dyna fasai Mirain eisiau ei weld".[5]
Ffilmyddiaeth
golyguTeitl | Blwyddyn | Rhan | Cwmni Cynhyrchu | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
O.M. | 1990 | Hâf | BBC Cymru | |
Tydi Bywyd yn Boen | 1990 | Delyth Haf | Ffilmiau Eryri | |
Tydi Coleg yn Gret | 1993 | Delyth Haf | Ffilmiau Eryri | |
Pengelli | 1995-2001 | Anwen Jones | Ffilmiau'r Nant | Cyfres 2-8 |
Rownd a Rownd | Jo | |||
Y Stafell Ddirgel | 2001 | Dorcas | HTV, Ffilmiau Llifon | |
Talcen Caled | 2004-2005 | Magi | Ffilmiau'r Nant | Cyfres 4-5 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr actores a’r sgriptwraig Mirain Llwyd Owen wedi marw’n 47 mlwydd oed , Golwg360, 13 Ionawr 2021. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021.
- ↑ Mwynhau her y Talcen Caled; Annes Glynn yn sgwrsio a'r act ores a'r sgriptwraig deledu, Mirain Llwyd Owen. , Daily Post, 13 Tachwedd 2004. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021.
- ↑ Cofio Mirain Llwyd Owen: 'Doedd neb craffach...' , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2021. Cyrchwyd ar 28 Ionawr 2021.
- ↑ Yr awdures ac actores Mirain Llwyd Owen wedi marw , BBC Cymru Fyw, 13 Ionawr 2021. Cyrchwyd ar 14 Ionawr 2021.
- ↑ @YesCymru (13 Ionawr 2021). "Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a chyfeillion Mirain Llwyd Owen bu farw heddiw. Mirain oedd aelod rhif 24 o YesCymru a bu ar ein Pwyllgor Canolog yn 2019. Mae'r newyddion creulon yma'n ein hysgogi fwy i ymladd dros Gymru Rydd - dyna fasai Mirain eisiau ei weld" (Trydariad) – drwy Twitter.
Dolenni allanol
golygu- Mirain Llwyd Owen ar wefan Internet Movie Database