Tywysogaeth Moldofa

(Ailgyfeiriad o Moldafia)

Tywysogaeth yn Nwyrain Ewrop a fodolai am ryw bumcan mlynedd, o ganol y 14g i 1859, oedd Tywysogaeth Moldofa neu Moldafia (Rwmaneg: Moldova neu Țara Moldovei). Lleolwyd yn rhanbarth isaf Afon Donaw, rhwng mynyddoedd y Carpatiau i'r gorllewin ac Afon Dniester i'r dwyrain. Ar ei hanterth, yn y 15g, roedd yn ffinio â'r Môr Du, ond am y rhan fwyaf o'i hanes gwlad dirgaeedig ydoedd.

Tywysogaeth Moldofa
Delwedd:Coat of arms of Moldavia.svg, COA of Moldavia 1855.svg
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Moldova Edit this on Wikidata
PrifddinasIași, Suceava, Siret, Baia Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1346 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwmaneg, Church Slavonic in Romania, Groeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Yn ffinio gydaY Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, Wallachia, Uchel Ddugiaeth Lithwania Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwadyr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol Edit this on Wikidata
Arianthaler Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Moldofa yn ystod hanner cyntaf y 14g gan Dragoș, pennaeth ar fyddin o Flachiaid a anfonwyd gan Lajos I, brenin Hwngari, i wrthsefyll y Llu Euraid. Tua 1349, disodlwyd Sas, mab Dragoș, gan y Tywysog Bogdan, a ddatganodd ei hun yn deyrn ar Foldofa, y tu hwnt i reolaeth Teyrnas Hwngari. Byddai tywysogion Moldofa yn amddiffyn eu hannibyniaeth yn erbyn Hwngari a Gwlad Pwyl, ac yn ehangu eu tiriogaeth i gynnwys Besarabia yn y dwyrain a Bukovina yn y gogledd-orllewin. Llwydodd y Tywysog Ștefan III (Steffan Fawr; teyrnasai 1457–1504) i wrthsefyll goresgyniadau gan luoedd yr Ymerodraeth Otomanaidd, ond yn sgil ei farwolaeth gorchfygwyd Moldofa gan yr Otomaniaid a gorfodwyd i'w fab, y Tywysog Bogdan III (t. 1504–17) i dalu teyrnged i'r Swltan Bayezid II.

Erbyn canol yr 16g, gwladwriaeth gaeth i'r Ymerodraeth Otomanaidd ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth oedd Tywysogaeth Moldofa. Yn ystod y trichan mlynedd olynol byddai Moldofa dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid, ac ambell waith byddai'r tywysogion yn gwrthod awdurdod y Swltan, gan gynnwys gwrthryfel Ioan III (t. 1572–4) yn erbyn trethi uchel. Ym 1600 ceisiodd Mihai, Tywysog Walachia, uno ei diriogaeth â Moldofa a Thransylfania, ac o 1601 i 1618 cydnabuwyd penarglwyddiaeth Gwlad Pwyl gan dywysogion o frenhinllin y Movilești. Fodd bynnag, bu'r Otomaniaid yn goruchafu ar farchnadoedd Moldofa ac yn aml yn rheoli olyniaeth y tywysogion. Wedi 1711, dewiswyd y tywysogion o'r Ffanariaid, sef y teuluoedd Groegaidd cefnog o Gaergystennin.[1]

Daeth Moldofa fwyfwy dan ddylanwad Ymerodraeth Rwsia yn y 18g. Collodd y dywysogaeth Bukovina i'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ym 1774, ac ildiodd Besarabia i Rwsia yn sgil Cytundeb Bwcarést (1812). Dymchwelwyd llywodraeth y Ffanariaid yn sgil gwrthryfel ym 1821, a daeth Moldofa dan reolaeth Rwsia yn sgil rhyfel rhwng Rwsia a'r Ymerodraeth Otomanaidd ym 1828–9. Cyflwynwyd cyfansoddiad y Regulamentul Organic (Statud Organig) gan Rwsia ym 1832. Wedi methiant y Rwsiaid yn Rhyfel y Crimea (1853–56), cydnabuwyd Moldofa yn swyddogol fel gwladwriaeth awtonomaidd dan ben-arglwyddiaeth yr Otomaniaid. Ym 1859, unwyd Tywysogaethau Moldofa a Walachia ar ffurf Rwmania.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Moldavia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mai 2022.