Gwladwriaeth Dyrco-Fongolaidd a ddatblygodd o diriogaeth orllewinol yr Ymerodraeth Fongolaidd oedd y Llu Euraid, Chaniaeth Kipchak, neu Ulus Juchi a fodolai o'r 1240au i 1502. Ar ei hanterth, ymestynnai tiriogaeth y Llu Euraid o Fynyddoedd Carpathia yn Nwyrain Ewrop hyd at stepdiroedd Siberia yn y dwyrain. Yn y de, ffiniodd y Llu Euraid â'r Môr Du, Mynyddoedd y Cawcasws, a'r Ilchaniaeth (un arall o wladwriaethau olynol yr Ymerodraeth Fongolaidd).

Y Llu Euraid
Ffiniau'r Llu Euraid tua 1300.
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasSarai, Sarai Berke, Bolğar Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1243 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Turki, Uyghur, Tsiagataidd, Mongoleg, Kipchak Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladY Llu Euraid Edit this on Wikidata
Arwynebedd6,000,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52°N 60°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholKurultai Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadTengrism Edit this on Wikidata
Ariandang, pūl, som Edit this on Wikidata

Chan cyntaf y Llu Euraid oedd Batu (teyrnasodd 1240–55), un o ŵyr Genghis Khan, a lansiodd sawl ymgyrch fuddugoliaethus i estyn gororau gorllewinol gan gynnwys cipio tiroedd y Bolgariaid yn y Volga ym 1236 a gorchfygiad Rws Kiefaidd ym 1240. Sefydlodd Batu ei brifddinas, Sarai Batu, ger Akhtuba, un o lednentydd deheuol Afon Volga, yn y 1240au, a leolir heddiw yn Oblast Astrakhan. Yn ddiweddarach, symudwyd y brifddinas i fyny'r afon, i Sarai Berke, a fyddai ar ei hanterth yn cynnal poblogaeth o ryw 600,000. Mongolwyr oedd yr uchelwyr, gan fwyaf, a chawsant eu Tyrceiddio a'u troi at Islam, yn enwedig dan y Chan Öz Beg (t. 1313–41). Byddai'r llwythau Tyrcig yn hwsmona ar y stepdiroedd, a gorfodwyd i'r bobloedd ddarostyngedig—Slafiaid Dwyreiniol, Mordfiniaid, Groegiaid, Georgiaid, ac Armeniaid—dalu teyrnged i'r chaniaeth.

Dirywiodd y Llu Euraid yn ail hanner y 14g, yn sgil y Pla Du (1346–47) a bradlofruddiaeth y Chan Tini Beg (t. 1341–42). Bu tywysogaethau'r Rwsiaid yn drech na'r Llu Euraid ym Mrwydr Kulikovo (1380), gan herio tra-arglwyddiaeth y Mongolwyr. Dygwyd cyrch ar Foscfa ym 1382 gan y Chan Tokhtamysh (t. 1380–97) i dalu'r pwyth yn ôl ac i orchfygu'r Rwsiaid unwaith eto, ond hwn oedd buddugoliaeth fawr olaf y Llu Euraid. Cafodd Tokhtamysh ei drechu yn ei dro gan Timur, a oresgynnodd tiriogaeth y Llu Euraid ym 1395, gan ddinistrio Sarai Berke ac alltudio'r mwyafrif o grefftwyr medrus yr ardal i Ganolbarth Asia. Yn y 15g, dechreuai'r Llu Euraid ymddatod yn sawl chaniaeth lai, gan gynnwys y Crimea, Astrakhan, a Kazan. Gorchfygwyd y cilcyn olaf o diriogaeth y Llu Euraid gan Chaniaeth y Crimea ym 1502.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Golden Horde. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2021.