Morgan Stoddart
Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig yw Morgan Stoddart (ganed 23 Medi 1984 yn Nhrealaw, Cymru). Mae fel arfer yn chwarae yn safle'r cefnwr. Ar hyn o bryd, mae'n chwarae i Sgarlets yn y Gynghrair Geltaidd.
Morgan Stoddart | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1984 Trealaw |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Scarlets, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Pontypridd, Treorchy RFC |
Safle | Cefnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa
golyguTreorci
golyguCychwynnodd Stoddart ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda Chlwb Rygbi Treorci, ac ymunodd gyda'r tîm oedolion pan yr oedd yn 18 mlwydd oed. Sgoriodd dros 250 o bwyntiau i'w dîm yn ystod tymor 2003-2004, wrth chwarae yn safle'r maswr.
Pontypridd
golyguChwaraeodd Stoddart yn safle'r cefnwr i dîm Pontypridd yn ystod tymor 2004–2005, gan greu enw i'w hun fel chwaraewr ymosodol iawn. Sefydlodd ei hun fel cefnwr yn Heol Sardis gan chwarae rhan bwysig ym muddugoliaeth Bontypridd yng Nghwpan Her URC yn erbyn Castell Nedd yn 2006.
Sgarlets Llanelli
golyguArwyddodd Stoddart gytundeb proffesiynol efo'r Sgarlets yn 2006. Enwyd Stoddart fel Chwaraewr y Flwyddyn Prifadran Cymru am ei gyfraniad i dîm Llanelli yn ystod tymor 2006-2007.
Tîm Cenedlaethol Cymru
golyguChwaraeodd Morgan Stoddart ei gêm gyntaf i dîm rygbi cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2007, yn y gêm yn erbyn De'r Affrig. Chwaraeodd yn safle'r cefnwr gan wneud argraff arbennig fel chwaraewr dawnus, drwy greu cais cyntaf Cymru a sgorio'r ail gais. Galwyd arno eto gan ei wlad i chwarae ar yr asgell dde ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.