Mortimer J. Adler

Athronydd, addysgwr, gwyddoniadurwr, a golygydd Americanaidd oedd Mortimer Jerome Adler (28 Rhagfyr 190228 Mehefin 2001). Yn ystod ei oes hir, ysgrifennai nifer o lyfrau poblogaidd am athroniaeth, llenyddiaeth glasurol a'r dyniaethau a gweithiodd i hyrwyddo addysg gynhwysfawr yn y traddodiad Gorllewinol i bawb, yn bennaf trwy gyfrwng y rhaglen "Great Books" mewn cyswllt â'i waith i'r Encyclopædia Britannica.

Mortimer J. Adler
Portread o Mortimer J. Adler wrth ei swydd yn y Center for the Study of Great Ideas.
Ganwyd28 Rhagfyr 1902 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mehefin 2001 Edit this on Wikidata
Palo Alto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, academydd, addysgwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadAristoteles, John Locke, Tomos o Acwin, Hans Vaihinger Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr Charles Frankel, Aquinas Medal Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganed Mortimer Jerome Adler yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yn fab i ymfudwyr Iddewig o'r Almaen. Gwerthwr gemwaith o'r enw Ignatz Adler oedd ei dad a chyn-athrawes o'r enw Clarissa Manheim oedd ei fam. Mynychodd Uwchysgol DeWitt Clinton yn y Bronx, ac er iddo ragori ar ei astudiaethau, gadawodd yr ysgol yn 15 oed i reoli addysg ei hun. Cafodd ei ysbrydoli gan hunangofiant yr athronydd John Stuart Mill, a oedd yn arddel hunanaddysg. Ceisiodd Adler gychwyn ar yrfa ym myd newyddiaduraeth i ennill ei damaid, ac aeth i weithio yn was copi ac yn ysgrifennydd i olygydd The Sun, papur newydd a gyhoeddwyd yn Efrog Newydd.[1] Yn ei amser rhydd aeth i'r afael â'r clasuron, a phenderfynodd fod yn athronydd wedi iddo ddarllen gwaith Platon.[2]

Enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Columbia, a chwblhaodd gwrs athroniaeth pedair-blynedd o fewn tair blynedd. Serch hynny, gadawodd Columbia heb ei radd, am iddo wrthod mynychu'r gwersi addysg gorfforol ac ennill ei farc am brawf nofio. Byddai'r brifysgol yn newid anghenion y cwrs ym 1983, ac yn gwobrwyo diploma Adler iddo am radd baglor yn y celfyddydau.[1]

Er iddo beidio ag ennill ei radd yn swyddogol, caniatawyd i Adler barhau â'i astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Columbia, a fe'i penodwyd yn hyfforddwr seicoleg ym 1923.[2] Heb gyflawni gradd meistr, enillodd ei ddoethuriaeth mewn seicoleg ym 1928 am ei draethawd yn ceisio canfod ffordd o fesur gwerthfawrogiad cerddoriaeth.[1] Ysgrifennodd lyfr ar sail ei ymchwil, Music Appreciation: An Experimental Approach to Its Measurement (1929), ond nid hwnnw oedd ei gyfrol gyntaf: ym 1927, cyhoeddodd Dialectic.

Gyrfa academaidd golygu

Fel myfyriwr doethurol ym Mhrifysgol Columbia, darlithiodd Adler ar bwnc seicoleg. Darlithiodd hefyd yng Ngholeg Dinas Efrog Newydd a'r People's Institute (a sefydlwyd gan Charles Sprague Smith), a gwasanaethodd yn isgyfarwyddwr y People's Institute o 1927 i 1929.[2]

Gwahoddwyd Adler i Brifysgol Chicago gan y llywydd newydd, Robert Maynard Hutchins, ym 1930. Gwrthodwyd syniadau Adler am athroniaeth ac addysg gan aelodau'r gyfadran athroniaeth, felly bu'n rhaid i Hutchins greu swydd newydd ar ei gyfer, sef athro cyswllt mewn athroniaeth y gyfraith. Aeth Hutchins ac Adler ati i ddiwygio'r gofynion academaidd ym Mhrifysgol Chicago gan bwysleisio cwricwlwm cynhwysfawr ac addysg eang yn y dyniaethau. Ym 1946 ymhelaethodd Adler a Hutchins ar y syniad hon ar ffurf y rhaglen "Great Brooks", gan wahodd aelodau'r cyhoedd i ymgynnull a thrafod un gyfrol o ganon y Gorllewin pob pythefnos. Mewn cysylltiad â'r rhaglen, trefnwyd i gwmni cyhoeddi'r Encyclopædia Britannica argraffu 443 o glasuron mewn 54 o gyfrolau. Gyda chymorth 90 o olygyddion ac ymchwilwyr, cyflawnodd Adler fynegai o 102 o'r "syniadau mawr" yn y llyfrau hyn, a bathodd yr enw syntopicon arno.[2]

Y deallusyn cyhoeddus golygu

Ysgrifennai Adler lu o lyfrau ar sawl pwnc yn ei ymgais i boblogeiddio athroniaeth a'r dyniaethau i bobl gyffredin yr Unol Daleithiau. Ei gyfrol enwocaf oedd How to Read a Book: The Art of Getting a Liberal Education (1940), a seiliwyd ar ei waith fel darlithydd gwadd i Goleg St. John's, coleg y celfyddydau breiniol yn Annapolis, Maryland.[2] Byddai Adler yn adolygu How to Read a Book ym 1966 ac eto, gyda Charles Van Doren, ym 1972.

Ymddiswyddodd Adler o Brifysgol Chicago ym 1952 a sefydlodd yr Institute for Philosophical Research yn San Francisco. Nod y sefydliad hwnnw oedd i ymchwilio gweithiau athronyddol ac i gofnodi'r holl gyfeiriadau at y syniadau mawr. Ffrwyth yr ymchwil hwn oedd y ddwy gyfrol a olygwyd gan Adler dan y teitl The Idea of Freedom (1958, 1961). Symudodd Adler yr Institute for Philosophical Research i ddinas Chicago ym 1963.[2]

Ym 1974, dyrchafwyd Adler yn gadeirydd ar fwrdd golygyddol yr Encyclopædia Britannica. Aeth ati i ddiwygio strwythur sylfaenol y gwyddoniadur, gan rannu'r cywaith yn dair adran: cyfrol gyflwyniadol o'r enw Propaedia, sydd yn llunio'r drefn newydd o ddosbarthu gwybodaeth; cyfeirlyfr geiriadurol mewn 10 cyfrol, y Micropedia; a'r Macropedia, mewn 19 cyfrol, sydd yn cynnwys erthyglau gwyddoniadurol hirach ar bynciau pwysig. Ymddeolodd Adler o'r Encyclopædia Britannica ym 1995.[3]

Yn y 1980au, cafodd y Prosiect Paideia ei greu gan Adler gyda chynllun i ddarparu addysg ddyneiddiol draddodiadol mewn ysgolion cyhoeddus, gan ddefnyddio'r dull Socrataidd. Ysgrifennodd Adler dri llyfr at ddiben y prosiect hwnnw. Yn ei henaint, dychwelodd Adler i'r byd academaidd gan ddal swydd athro ym Mhrifysgol Carolina yn Chapel Hill, Gogledd Carolina, o 1988 i 1991. Sefydlwyd y Center for the Study of Great Ideas yn Chicago gan Adler a Max Weismann ym 1990.[2]

Bywyd personol golygu

Yn ystod ei flwyddyn derfynol ym Mhrifysgol Columbia, priododd Mortimer Adler â Helen Leavenworth Boyton. Cawsant ddau fab, Mark Arthur a Michael Boyton. Yn sgil eu hysgariad, priododd Adler â Caroline Sage Pring ym 1963, a chawsant ddau fab, Douglas Robert a Philip Pring.

Er iddo gael ei fagu yn Iddew, cafodd Adler amheuon am grefydd ddatgueddiedig ac am y rhan fwyaf o'i oes fe alwai ei hun yn "bagan". Trodd yn Gristion ym 1984, a fe'i bedyddiwyd gan offeiriaid o'r Eglwys Episgopalaidd. Ym 1999, dwy flynedd cyn ei farwolaeth, ymunodd â'r Eglwys Gatholig.[4]

Bu farw yn ei gartref yn San Mateo, Califfornia, ar 28 Mehefin 2001, yn 98 oed.[2]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • Art and Prudence: A Study in Practical Philosophy.
  • What Man Has Made of Man: A Study of the Consequences of Platonism and Positivism in Philosophy.
  • How to Think About War and Peace (1944).
  • The Conditions of Philosophy (1965).
  • The Time of Our Lives: The Ethics of Common Sense (1970).
  • The Common Sense of Politics (1971).
  • Philosopher at Large: An Intellectual Autobiography (1977).
  • Aristotle for Everybody: Difficult Thought Made Easy (1978).
  • How to Think About God: A Guide for the 20th-Century Pagan (1980).
  • Six Great Ideas (1981).
  • The Paideia Proposal: An Educational Manifesto (1982).
  • Paideia Problems and Possibilities (1983).
  • The Paideia Program: An Educational Syllabus (1984).
  • Ten Philosophical Mistakes (1985).
  • We Hold These Truths: Understanding the Ideas and Ideals of the Constitution (1987).
  • Intellect: Mind Over Matter (1990).
  • The Great Ideas: A Lexicon of Western Thought (1992).
  • A Second Look in the Rearview Mirror (1992).
  • Haves Without Have-Nots: Essays for the 21st Century on Democracy and Socialism (1991).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Mortimer Jerome Adler" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 18 Ionawr 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 (Saesneg) William Grimes, "Mortimer Adler, 98, Dies; Helped Create Study of Classics", The New York Times (29 Mehefin 2001). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Ionawr 2021.
  3. (Saesneg) Mortimer J. Adler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Ionawr 2021.
  4. (Saesneg) Richard H. Popkin a Ruth Beloff, "Adler Mortimer Jerome" yn Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 18 Ionawr 2022.