Mosg Fatima Khatun

Mosg Fatima Khatun (Arabeg: جامع جنين الكبير‎) a elwir hefyd yn Fosg Mawr Jenin, yw prif fosg dinas Jenin yng ngwlad Palestina, Saif yng ngogledd y Lan Orllewinol. Wrth ymyl y mosg mae Ysgol Ferched Fatima Khatun sy'n dal ar agor.[1]

Mosg Fatima Khatun
Enghraifft o'r canlynolmosg Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Dechrau/Sefydlu636 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthJenin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes golygu

Roedd mosg adfeiliedig yn dyddio'n ôl i 636 yn sefyll ar y safle. Fe'i hadnewyddwyd yn ystod oes Mamluk yn y 14g, ond eto fe aeth yn adfail.[1][2]

Sefydlwyd y strwythur presennol ym 1566 gan Fatima Khatun, gwraig Lala Kara Mustafa Pasha, llywodraethwr Bosnia yn Damascus yn ystod teyrnasiad y swltan Otomanaidd Swleiman I. Roedd Fatima Khatun yn ymweld â'r ardal yn rheolaidd, ond roedd yn hoff iawn o Jenin wrth deithio tuag at Jeriwsalem ar bererindod.[1] Yng nghanol Jenin, penderfynodd sefydlu'r adeilad ar ben gweddillion yr hen fosg. Dynodwyd nifer o ymddiriedolaethau crefyddol (waqf ) gan gynnwys baddon cyhoeddus lleol (hamaam) a llawer o'r siopau cyfagos i ariannu Mosg Fatima Khatun wedi hynny, ar ffurf treth.[2]

Heddiw, mae'n gwasanaethu fel mosg mwyaf Jenin.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Irving, Sarah (2012). Palestine. Bradt Travel Guides. t. 243. ISBN 9781841623672.
  2. 2.0 2.1 Muhammad al-Humaidan, Iman (2007). "Women and Waqf". Kuwait Awqaf Public Foundation. t. 27.