Mudiad Gweriniaethol Cymru
Mudiad cenedlaethol Cymreig a ddatblygodd fel hollt o Blaid Cymru oedd Mudiad Gweriniaethol Cymru, hefyd yn defnyddio'r enw Plaid Weriniaethol Cymru.
Hanes
golyguRoedd cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn 1949 yn un stormus, gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a bod hyn yn rhwystro'r achos cenedlaethol rhag ennill cefnogaeth yn ardaloedd diwydiannol y de-ddwyrain. Roedd rhai yn beirniadu heddychaeth Gwynfor Evans, ac yn galw am agwedd fwy milwriaethus. Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd Mudiad Gweriniaethol Cymru, gyda tua 50 o aelodau Plaid Cymru yn gadael i greu'r blaid newydd. Yn eu plith roedd Gwilym Prys-Davies, W. Huw R. Davies, Trefor Morgan a Cliff Bere.
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 1950, safodd Ithel Davies fel ymgeisydd Plaid Weriniaethol Cymru yn etholaeth Bro Ogwr. Cafodd 613 o bleidleisiau (1.3%). Cyhoeddodd y Mudiad bapur The Welsh Republican rhwng 1950 a 1957, gyda Harri Webb yn un o'r golygyddion, a chyhoeddodd Cliff Bere bamffled The Welsh Republican. Roedd y mudiad wedi dirwyn i ben cyn diwedd y 1950au.