Mongolia Fewnol
Rhanbarth ymreolaethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Mongolia Fewnol (Tsieineeg syml: 内蒙古; Tsieineeg draddodiadol: 內蒙古; Mandarin Pinyin: Nèi Měnggǔ; Jyutping: Noi6 Mung4 gu2).[1] Saif yng ngogledd y wlad, yn ffinio ar Mongolia a Rwsia yn y gogledd. Cyfeiria Gweriniaeth Pobl Tsieina at wlad Mongolia fel "Mongolia Allanol". Defnyddia llywodraeth Mongolia Fewnol yr enw öbür mongghul ("de Mongolia").
Math | Ardal hunanlywodraethol Gweriniaeth pobl Tsieina |
---|---|
Prifddinas | Hohhot |
Poblogaeth | 24,706,321, 24,049,155 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bu Xiaolin, Wang Lixia |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Gwlad | Tsieina |
Arwynebedd | 1,181,104 km² |
Yn ffinio gyda | Gansu, Ningxia, Shaanxi, Shanxi, Hebei, Liaoning, Jilin, Heilongjiang, Crai Zabaykalsky, Talaith Dornogovi, Talaith Govi-Altai, Talaith Sükhbaatar |
Cyfesurynnau | 44°N 113°E |
CN-NM | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Inner Mongolian Autonomous Regional People's Congress |
Pennaeth y Llywodraeth | Bu Xiaolin, Wang Lixia |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | 1,735,980 million ¥ |
Mae gan Mongolia Fewnol arwynebedd o 1.18 miliwn km² a phoblogaeth o 23.8 miliwn. Y brifddinas yw Hohhot. Tsineaid Han yw tua 80% o'r boblogaeth, gyda Mongoliaid yn ffurfio 17%.
Er bod y mwyafrif o frodorion y wlad yn Han y mae'r llywodraeth yn ofalus i ddefnyddio arwyddion yn y Mongoleg hefyd.
Defnyddir hen ysgrif y Fongoleg ym Mongolia Fewnol. Y wyddor Cyrilaidd a ddefnyddir ym Mognolia Allanol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 103.
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
---|---|
Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |