Ceriagrion tenellum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Ceriagrion
Rhywogaeth: C. tenellum
Enw deuenwol
Ceriagrion tenellum
(De Villers, 1789)

Mursen bychan (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Mursen fach goch (llu: mursennod bach coch; Lladin: Ceriagrion tenellum; Saesneg: Small red damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Ceriagrion. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen fach goch i'w chael yng Nghymru. Mae'n cyrraedd un o'i safleoedd mwyaf gogleddol yn y byd yn Amlwch, gogledd Môn[1]

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, mawnogydd a chorsydd, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.

Mae'n 25–35 millimetre (0.98–1.38 in) o hyd, gydag adenydd yr oedolyn yn 31mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mehefin ac Awst. Mae'n llai ei faint na Mursen fawr goch, er bod rhain gangymryd y ddau hyn. mae top y thoracs (yn y ddau ryw) yn lliw efydd-tywyll. Coch ydy abdomen a gwryw a lliw efydd-tywyll yw abdomen y fenyw. Ceir ffurf tywyll i'r rhywogaeth hon, sef y melanogastrum, ac mae ei habdomen hi bron yn ddu fel glo. Ceir ffurf prin iawn hefyd sef erythrogastrum, ble mae'r fenyw'n cymryd arni liwiau'r gwryw. Gall y gwryw fod yn hynod o ffyrnig tuag at wrywod eraill.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Dijkstra, Klaas-Douwe B. (2006). Field Guide to the Dragonflies of Britain and Europe. tt. 66–67. ISBN 0-9531399-4-8.
  • "Small Red Damselfly". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 11 Awst 2010.

Dolen allanol golygu