Mynegiant rhywedd

(Ailgyfeiriad o Mynegiant o ran rhywedd)

Ymddygiad, ystumiau, diddordebau, ac ymddangosiad person sy'n gysylltiedig â rhywedd yw mynegiant rhywedd[1] neu gyflwyniad rhywedd, yn benodol â'r categorïau o fenyweidd-dra neu wryweidd-dra. Mae hyn hefyd yn cynnwys rolau rhywedd. Mae'r categorïau hyn yn dibynnu ar stereoteipiau ynghylch rhywedd.

Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Diffiniadau

golygu

Mae mynegiant rhywedd fel arfer yn adlewyrchu hunaniaeth rhywedd person (eu synnwyr mewnol o'u rhywedd eu hunain), ond nid yw hyn yn wir bob amser.[2][3] Mae mynegiant rhywedd ar wahân ac yn annibynnol i gyfeiriadedd rhywiol a rhyw a bennwyd iddynt ar eu genedigaeth.[4] Gellir mynegi hunaniaeth rhywedd trwy ymddygiad, dillad, gwallt, colur ac agweddau eraill ymddangosiad allanol.[5] Nid yw mynegiant rhywedd bob amser yn cyd-fynd â hunaniaeth rhywedd person.[6] Gellir disgrifio math o fynegiant rhywedd a ystyrir yn annodweddiadol ar gyfer rhywedd unigolyn a dremir yn allanol yn anghydffurfiol o ran rhywedd.

Mewn dynion a bechgyn, yn aml disgrifir mynegiant rhywedd nodweddiadol neu wrywaidd yn wrol, tra bod mynegiant annodweddiadol neu fenywaidd yn cael ei adnabod yn ferchetaidd. Mewn merched a menyw ifanc, gelwir mynegiant gwrywaidd annodweddiadol yn domboiol. Mewn merched lesbiaidd a queer, gelwir mynegiannau gwrywaidd a benywaidd yn fwtsh a ffem yn y drefn honno. Gellir disgrifio cymysgedd o fynegiant nodweddiadol ac annodweddiadol yn androgynaidd. Gellir disgrifio math o fynegiant nas ystyrir yn nodweddiadol yn fenywaidd nac yn wrywaidd yn niwtral o ran rhywedd neu yn ddiwahaniaeth.

Defnyddir y term mynegiant rhywedd yn Egwyddorion Yogyakarta, sy'n ymwneud â chymhwyso cyfraith hawliau dynol rhyngwladol mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, mynegiant rhywedd, a nodweddion rhyw.[7] Mae'r term hefyd yn dynodi maen prawf ar gyfer amddiffyn hawliau dynol mewn rhai gwledydd, gan gynnwys Canada.[8]

Dryswch rhwng mynegiant rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol

golygu

Er nad yw mynegiant rhywedd o reidrwydd yn cysylltu â rhywioldeb, camddehonglir unigolion yn aml yn fwy gwrywaidd os ydynt yn lesbiaidd ac yn fwy benywaidd os ydynt yn hoyw, waeth beth fo mynegiant rhyw yr unigolyn. Gall y credoau hyn arwain at bobl yn camddehongli mynegiant rhywedd unigolyn ar sail eu rhywioldeb. Dangosodd astudiaethau ar y glasoed a gynhaliwyd gan Stacey Horn, fod unigolion hoyw a lesbiaidd nad oeddent yn mynegi eu hunain fel y rhywedd a bennwyd iddynt yn cael eu hystyried yn llai derbyniol. Roedd unigolion a fynegodd eu hunain gyda'r rhywedd a bennwyd iddynt fel arfer yn wynebu llai o aflonyddu cymdeithasol a gwahaniaethu. Ar y llaw arall, roedd gwrywod heterorywiol yr oedd eu mynegiant rhywedd yn fwy benywaidd na gwrywaidd yn dioddef fwyaf.[9]

Mae damcaniaeth "y matrics heterorywiol" a grëwyd gan y theorïwr rhywedd Judith Butler yn awgrymu bod pobl yn aml yn cymryd rhywioldeb rhywun yn ganiataol yn seiliedig ar eu rhywedd a'u rhywedd gweladwy. Dywed Lisa Disch ei fod yn esbonio pam mae pobl yn tueddu i gymryd mynegiant rhywedd rhywun yn ganiataol yn seiliedig ar eu rhyw a'u rhywioldeb.[10]

Gwahaniaethu

golygu

Weithiau, mae pobl yn wynebu gwahaniaethu oherwydd eu mynegiant rhywedd. Mae dioddefwyr gwahaniaethu yn aml yn mynegi rhyweddau gwahanol yn ddiwylliannol i'w hunaniaeth rhywedd neu ryw biolegol. Gall gwahaniaethu ar sail mynegiant rhywedd fod yn annibynnol i gyfeiriadedd rhywiol, a gall arwain at fwlio, cam-drin plentyndod, ymosodiad rhywiol, gwahaniaethu, a chaledi trawmatig amrywiol eraill. [11] Er enghraifft, gall dyn sy'n hunaniaethu yn hoyw ac yn mynegi ei hun mewn ffordd fwy benywaidd na gwrywaidd fod mewn mwy o berygl o ymosodiad rhywiol, cam-drin corfforol, a gwahaniaethu o'i gymharu â dyn hoyw sy'n mynegi gwrywdod yn drwm.

Mae mynegiant rhywedd yn agwedd sylweddol o sut mae person yn gweld ei hun, ac felly bydd yn effeithio ar hunanhyder. Pan fydd unigolyn yn cael ei orfodi, oherwydd dylanwadau personol neu gymdeithasol, i bortreadu ei hun mewn modd nad yw'n uniaethu'n bersonol ag ef, gall hyder gael ei lesteirio'n fawr gan niweidio iechyd meddwl yn ei dro. Adroddodd astudiaeth yn 2017, pan fydd lesbiaid gwrywaidd yn cael eu gorfodi i wisgo mewn arddull benywaidd, mae eu hyder yn dioddef yn fawr. [12]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Chwiliwch am derm, gair neu ymadrodd". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2022-04-12.
  2. Summers, Randal W. (2016). Social Psychology: How Other People Influence Our Thoughts and Actions [2 volumes]. ABC-CLIO. t. 232. ISBN 9781610695923.
  3. American Psychological Association (December 2015). "Guidelines for Psychological Practice With Transgender and Gender Nonconforming People". American Psychologist 70 (9): 861. doi:10.1037/a0039906. PMID 26653312. http://www.apa.org/practice/guidelines/transgender.pdf.
  4. "Gender, Gender Identity, and Gender Expression". Government of Alberta. Cyrchwyd 20 Sep 2020.
  5. "Sexual Orientation and Gender Identity Definitions". HRC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-17.
  6. Kirkup, Kyle (2018-01-01). "The origins of gender identity and gender expression in Anglo-American legal discourse". University of Toronto Law Journal 68 (1): 80–117. doi:10.3138/utlj.2017-0080. ISSN 0042-0220. https://www.utpjournals.press/doi/full/10.3138/utlj.2017-0080.
  7. Yogyakarta Principles plus 10
  8. Macfarlane, Emmett (2018). Policy Change, Courts, and the Canadian Constitution. University of Toronto Press. t. 391.
  9. Horn, Stacey S (2007). "Adolescents' Acceptance of Same-Sex Peers Based on Sexual Orientation and Gender Expression". Journal of Youth and Adolescence 36 (3): 373. doi:10.1007/s10964-007-9176-4. PMID 27519035.
  10. Disch, Lisa (1999). "Judith Butler and the Politics of the Performative". Political Theory 27 (4): 545–559. doi:10.1177/0090591799027004006. https://archive.org/details/sim_political-theory_1999-08_27_4/page/545.
  11. Lehavot, Keren; Molina, Yamile; Simoni, Jane M. (2012-09-01). "Childhood Trauma, Adult Sexual Assault, and Adult Gender Expression among Lesbian and Bisexual Women" (yn en). Sex Roles 67 (5): 272–284. doi:10.1007/s11199-012-0171-1. ISSN 1573-2762. PMC 3758810. PMID 24003263. https://doi.org/10.1007/s11199-012-0171-1.
  12. Henrichs-Beck, Christine L.; Szymanski, Dawn M. (2017). "Gender expression, body–gender identity incongruence, thin ideal internalization, and lesbian body dissatisfaction." (yn en). Psychology of Sexual Orientation and Gender Diversity 4 (1): 23–33. doi:10.1037/sgd0000214. ISSN 2329-0390. http://doi.apa.org/getdoi.cfm?doi=10.1037/sgd0000214.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Serano, Julia (2016). Whipping Girl: A transsexual woman on sexism and the scapegoating of femininity (2il arg. ), Berkeley, CA: Seal Press.