Y cyflwr o fod â nodweddion rhyw neu ryweddol benywaidd a gwrywaidd yw androgynedd[1][2] neu weithiau gwrfenywdod.[2] Yn ei ystyr fiolegol mae'n gyfystyr â deurywiaeth fiolegol, hynny yw y deurywiad neu'r hermaffrodit: unigolyn a chanddo organau cenhedlu cwbl ddatblygedig o'r ddau ryw. Mae gan ddeurywiaid nodweddion corfforol sy'n gymysgedd o'r gwryw a'r fenyw.[3]

Androgynedd
Enghraifft o'r canlynolMynegiant rhywedd, hunaniaeth Edit this on Wikidata
Mathsexual diversity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysandrogyne, Androgynos, androgynos Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Yn ôl y seicolegydd, cyfeiria at berson a chanddo nodweddion personol cryf, ond nid o reidrwydd biolegol, a gysylltir â'r ddau ryw. Mae personoliaeth yr unigolyn androgynaidd yn cyfuno benyweidd-dra a gwrywdod: gwydnder ac addfwynder, pendantrwydd a natur fagwrol. Mae unigolion androgynaidd yn debycach o fod yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol na phersonau sy'n cadw at swyddogaethau rhyweddol traddodiadol. Yn sgil dyfodiad ffeministiaeth a'r mudiad hawliau i fenywod, daeth agweddau o ymddygiad androgynaidd yn fwy dderbyniol ac atyniadol nag yn y gorffennol.[3]

Roedd nifer o gymeriadau androgynaidd ym mytholeg Roeg, ac yn aml roeddent yn ymgorffori cyfuniad o nodweddion gwrywaidd a benywaidd dymunol. Weithiau cafodd y rhagweledydd dall Tiresias ei bortreadu'n ddeurywiad.[3] Yn Japan ceir genre cyfan o ffilmiau wedi'i seilio ar hyn, sef Futanari.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Termau: androgynedd. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2015.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [androgyny].
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) androgyny. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2015.