Mynyddoedd Ahaggar
Mynyddoedd yn rhan ddeheuol Algeria yw Mynyddoedd Ahaggar, weithiau Hoggar. Safant ynghanol anialwch y Sahara, tua 1,500 km i'r de o Algiers ac ychydig i'r gorllewin o Tamanrasset. Y copa uchaf yw Tahat (3,003 medr).
Math | masiff, cadwyn o fynyddoedd, llwyfandir, ardal ddiwylliannol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Tamanghasset |
Gwlad | Algeria |
Arwynebedd | 50,000 km² |
Uwch y môr | 2,908 metr, 2,021 metr |
Cyfesurynnau | 23.28861°N 5.53417°E, 23.16667°N 5.83333°E |
Cyfnod daearegol | Proterosöig |
Trigolion brodorol yr ardal yw'r Twareg neu Kel Ahaggar. Yn Abalessa, ger Tamanrasset, ceir beddrod traddodiadol Tin Hinan, cyndad mytholegol y Twareg.