Neidr ddefaid
(Ailgyfeiriad o Nadroedd defaid)
Neidr Ddefaid | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Squamata |
Is-urdd: | Lacertilia |
Teulu: | Anguidae |
Genws: | Anguis |
Rhywogaeth: | A. fragilis |
Enw deuenwol | |
Anguis fragilis Linnaeus, 1758 |
Mae'r neidr ddefaid neu neidr ddall (Lladin: Anguis fragilis; Saesneg: slow-worm) yn fadfall ddigoesau fach duriol sy'n byw ar wlithod, lindys ac abwyd, ac iddo fân-lygaid gweithredol. Enwau eraill arni yw dallneidr, slorwm, neidr fraith (yng ngogledd Cymru, yn arbennig ym Môn), maplath (yng Ngwent) a modrybwilan (yn ne ddwyrain Cymru).
Madfallod gyda chorff sarffaidd o liw brownaidd neu'r copr yw nadroedd defaid. Mae croen y neidr ddefaid yn llyfn gyda chennau bach nad yw'n gorgyffwrdd â'i gilydd. Fel pob madfall arall, mae gan nadroedd defaid y gallu i hunandorri, sy'n golygu eu bod yn medru diosg eu cynffonau er mwyn dianc rhag ysglyfaethwyr. Mae'r gynffon yn aildyfu ar ôl hynny, ond yn anaml i'w hyd blaenorol.