Nahwatleg

iaith
(Ailgyfeiriad o Nahuatl)

Iaith yn perthyn i deulu yr ieithoedd Uto-Astecaidd yw Nahwatleg (yn dod o nāhua-tl, "sain glir neu ddymunol" a tlahtōl-li, "iaith"). Fe'i siaredir ym Mecsico yn bennaf, gyda rhai siaradwyr yn yr Unol Daleithiau a rhai o wledydd canolbarth America. Nahwatleg yw'r iaith frodorol gyda'r nifer fwyaf o siaradwyr ym Mecsico, gyda thua miliwn a hanner o siaradwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ddwyieithog ynghyd â Sbaeneg. Ceir nifer o dafodieithoedd gwahanol.

Nahwatleg
Enghraifft o'r canlynoliaith Edit this on Wikidata
Mathieithoedd Nahwatl, Ieithoedd Uto-Astecaidd Edit this on Wikidata
Rhan oieithoedd brodorol Mecsico Edit this on Wikidata
Enw brodorolNawatlahtolli Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 1,925,620 (2015)[1]
  • cod ISO 639-2nah Edit this on Wikidata
    GwladwriaethMecsico, El Salfador Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioInstituto Nacional de Lenguas Indígenas Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Nahwatleg oedd lingua franca ymerodraeth yr Astec o'r 13g hyd ei chwymp yn 1521. Parhaodd yr iaith i ledaenu hyd yn oed ar ôl y goncwest Sbaenaidd, oherwydd defnyddid hi gan genhadon ac eraill. Dechreuwyd defnyddio yr wyddor Ladin ar gyfer ysgrifennu'r iaith, a chyhoeddwyd y llyfr argarffedig cyntaf ynddi, Doctrina cristiana breve traducida en lengua mexicana, gan Alonso de Molina yn 1546.

    Daw geiriau megis "tomato" a "siocled" o'r iaith Nahwatleg.

    Ardaloedd o siaradwyr Nahwatleg ym Mecsico:
    gwyrdd = cyn y goncwest Sbaenaidd; coch = heddiw
    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/