Naim Frashëri
Bardd, hanesydd, a chenedlaetholwr o Albania oedd Naim Bey Frashëri (25 Mai 1846 – 20 Hydref 1900) a ystyrir yn fardd cenedlaethol Albania ac un o'r prif ffigurau yng nghyfnod y dadeni diwylliannol a gwleidyddol yn hanes Albania a elwir Rilindja.
Naim Frashëri | |
---|---|
Ffugenw | D. Keto |
Ganwyd | 25 Mai 1846 Frashër |
Bu farw | 20 Hydref 1900 o clefyd Istanbul |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, cyfieithydd, newyddiadurwr, gwleidydd, hanesydd |
Arddull | telyneg |
Perthnasau | Midhat Frashëri, Ali Sami Yen |
llofnod | |
Ganed i deulu Mwslimaidd ym mhentref Fraşer (bellach Frashër, Albania), yn rhanbarth Epirws yn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Mae'n debyg iddo ddysgu'r ieithoedd Tyrceg, Perseg, ac Arabeg yn ei fachgendod, a chafodd ei gyflwyno i draddodiadau ysbrydol a chyfriniol Islam ym mynachlog Urdd Bektashi. Mynychodd yr Ysgol Zosimaia yn Janina (bellach Ioánnina, Groeg) ac yno derbyniodd addysg glasurol, Ewropeaidd. Yn ei ieuenctid felly, magodd Frashëri ddealltwriaeth ddwfn a gwerthfawrogiad cydnaws o draddodiadau deallusol y Dwyrain a'r Gorllewin, gan gynnwys Swffïaeth bantheistaidd, barddoniaeth Berseg glasurol, a'r Oleuedigaeth.[1] Graddiodd o'r ysgol ym 1870 a threuliodd gyfnod yng Nghaergystennin (bellach Istanbwl, Twrci), lle cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, gramadeg o'r iaith Berseg, ym 1871.
Dioddefodd Frashëri o'r ddarfodedigaeth ers ei flynyddoedd cynnar, a dychwelodd ymhen fawr o dro i fynyddoedd Albania i liniaru ei afiechyd. Gweithiodd Frashëri yn was sifil yn Berat, ac yn swyddog tollau yn Sarandë o 1874 i 1877. Cafodd ei frawd hŷn, Abdyl Frashëri, ei arestio yn Janina yn Ebrill 1881, a dychwelodd Naim i Gaergystennin i ymgyrchu dros genedlaetholdeb Albaniaidd. Ymunodd â'r Pwyllgor Canolog i Amddiffyn Hawliau'r Albaniaid a'r Gymdeithas dros Gyhoeddi Ysgrifennu yn Albania.[1] Daeth Naim a'i frawd iau, Sami, i'r amlwg fel arweinwyr y mudiad Albaniaidd yng Nghaergystennin, prifddinas yr ymerodraeth.
Ysgrifennodd Frashëri 22 o weithiau mewn pedair iaith: 15 yn Albaneg, pedwar yn Nhyrceg, dau yn Roeg, ac un yn Berseg.[1] Nodir am ei gylch o fugeilgerddi a llafurgerddi Bagëti e bujqësija ("Da Byw a Chnydau"; 1886) ar batrwm Fyrsil, y casgliadau o gerddi Luletë e verësë ("Blodau'r Haf"; 1890) a Parajsa dhe fjala fluturake ("Paradwys a Geiriau Adeiniog"; 1894), y gyfrol o ysgrifau ysbrydol Mësime ("Dysgeidiaethau"; 1894), yr arwrgerdd hanesyddol Istori’ e Skenderbeut ("Hanes Skanderbeg"; 1898), a'r arwrgerdd grefyddol Shïaidd Qerbelaja ("Karabala"; 1898). Yn ogystal â'i farddoniaeth Albaneg, cyfansoddodd Frashëri ddwy gerdd yn yr iaith Roeg: "O alithis pothos ton skipetaron" (Ο αληθής πόθος των Σκιπετάρων, "Gwir Ddymuniad yr Albaniaid"; 1886) ac "O Eros" (Ο Έρως, "Serch"; 1895).
Llyfryddiaeth
golygu- Kavâid-i farisiyye dar tarz-i nevîn (Caergystennin, 1871).
- Ihtiraat ve kessfiyyat (Caergystennin, 1881).
- Fusuli erbea (Caergystennin, 1884).
- Tahayyülat (Caergystennin, 1884).
- Bagëti e bujqësija (Bwcarést, 1886).
- E këndimit çunavet (Bwcarést, 1886).
- Istori e përgjithshme për mësonjëtoret të para (Bwcarést, 1886).
- Vjersha për mësonjëtoret të para (Bwcarést, 1886).
- Dituritë për mësonjëtoret të para (Bwcarést, 1886).
- "O alithis pothos ton skipetaron" (Ο αληθής πόθος των Σκιπετάρων; Bwcarést, 1886)
- Luletë e verësë (Bwcarést, 1890).
- Parajsa dhe fjala fluturake (Bwcarést, 1894).
- Mësime (Bwcarést, 1894).
- Gjithësia (Bwcarést, 1895).
- Fletore e bektashinjët (Bwcarést, 1895).
- O Eros (Ο Έρως; Caergystennin, 1895).
- Iliadh' e Omirit (Bwcarést, 1896).
- Istori’ e Skenderbeut (Bwcarést, 1898).
- Qerbelaja (Bwcarést, 1898).
- Istori e Shqipërisë (Sofia, 1899).
- Shqipëria (Sofia, 1902).