Nancy Reagan
Roedd Nancy Davis Reagan (ganed Anne Frances Robbins; 6 Gorffennaf 1921 – 6 Mawrth 2016) yn actores ffilm Americanaidd ac yn wraig i'r 40fed Arlywydd yr Unol Daleithiau, Ronald Reagan. Gwasanaethodd fel Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1981 i 1989.
Nancy Reagan | |
| |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1981 – 20 Ionawr 1989 | |
Arlywydd | Ronald Reagan |
---|---|
Rhagflaenydd | Rosalynn Carter |
Olynydd | Barbara Bush |
Prif Foneddiges Califfornia
| |
Cyfnod yn y swydd 3 Ionawr 1967 – 6 Ionawr 1975 | |
Llywodraethwr | Ronald Reagan |
Rhagflaenydd | Bernice Brown |
Olynydd | Gloria Deukmejian |
Geni | 6 Gorffennaf 1921 Plains, Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Yr Unol Daleithiau |
Marw | 6 Mawrth 2016 Bel Air, Califfornia, Yr Unol Daleithiau | (94 oed)
Plaid wleidyddol | Plaid Weriniaethol |
Priod | Ronald Reagan (1952–2004) |
Plant | Patti Davis Ron Reagan |
Llofnod |
Fe'i ganwyd yn Ninas Efrog Newydd, ond ar ôl i'w rhieni wahanu, y bu'n byw ym Maryland gyda'i modryb ac ewythr am beth amser. Symudodd i Chicago wedi i'w mam ail-briodi yn 1929, gan gymryd yr enw Davis o'i llys-dad. Fel Nancy Davis, yr oedd yn actores Hollywood yn y 1940au a'r 1950, yn serennu mewn ffilmiau megis The Next Voice You Hear..., Night into Morning a Donovan's Brain. Yn 1952, priododd Ronald Reagan, oedd ar y pryd yn llywydd ar Gymdeithas yr Actorion Sgrin. Cawsant ddau o blant gyda'i gilydd. Roedd Reagan yn Brif Foneddiges Califfornia tra yr oedd ei gŵr yn Llywodraethwr o 1967 i 1975.
Ffilmiau
golygu- Portrait of Jennie (1948)
- The Doctor and the Girl (1949)
- East Side, West Side (1949)
- Shadow on the Wall (1950)
- The Next Voice You Hear... (1950)
- Night into Morning (1951)
- It's a Big Country (1951)
- Talk About a Stranger (1952)
- Shadow in the Sky (1952)
- Donovan's Brain (1953)
- Hellcats of the Navy (1957)
- Crash Landing (1958)
Rhagflaenydd: Rosalynn Carter |
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1981 – 1989 |
Olynydd: Barbara Bush |