Roedd Nans Jones neu Annie Mary Jones (191518 Mai 2009)[1] yn swyddog cyflogedig llawn amser i Blaid Cymru o 1942 hyd ei hymddeoliad yn 1979.

Nans Jones
Ganwyd1915 Edit this on Wikidata
Penrhosgarnedd Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mai 2009 Edit this on Wikidata
Man preswylBangor, Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yn Nhafarn Newydd, Penrhosgarnedd ger Bangor yn 1915. Symudodd y teulu yn fuan i Treborth. Ymunodd â Phlaid Cymru yn 15 oed bum mlynedd ar ôl ffurfio'r Blaid. Ar ôl gweithio mewn siop ym Mangor daeth yn gyfrifydd i Blaid Cymru yn 1942, yn y pencadlys bryd hynny yng Nghaernarfon. Yn 1947 symudwyd y Pencadlys i Gaerdydd a gadawodd Nans y Gogledd.

Roedd yn gyfarwydd iawn a'r prif aelodau - Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams gan gynnal ysgwyddau J.E. Jones a Gwynfor Evans ar adegau anodd.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Colofn marwolaeth. Daily Post (28 Mai 2009). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.