Catrin Finch
Telynores yn wreiddiol o Lanon, Ceredigion, yw Catrin Finch (ganwyd 24 Ebrill 1980).
Catrin Finch | |
---|---|
Catrin Finch yn ngŵyl An Oriant, 2008 | |
Ganwyd | 24 Ebrill 1980 Ceredigion |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, cerddor |
Swydd | Official Harpist to the Prince of Wales |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Q113031066 |
Gwefan | http://www.catrinfinch.com/ |
Cafodd ei gwersi telyn cyntaf gan Elinor Bennett pan nad oedd ond wyth oed. Bu yn Ysgol Purcell yn Llundain pan oedd yn 16 oed, gan astudio dan law Skaila Kanga, ac aeth ymlaen wedyn i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Enillodd Gystadleuaeth Telyn Ryngwladol Lily Laskine yn 1999 un o brif wobrau'r byd i'r delyn, ac enillodd Gyfweliadau Rhyngwladol Artistiaid Cyngerdd Ifanc yn Efrog Newydd. Mae wedi teithio yn eang yn yr Unol Daleithiau.
Mae wedi gweithio gyda Karl Jenkins, Bryn Terfel, James Galway, Julian Lloyd-Webber a Katherine Jenkins.
Fe'i penodwyd yn delynores frenhinol i Dywysog Cymru yn y flwyddyn 2000.
Bywyd personol
golyguYn 2003, priododd â Hywel Wigley, mab Dafydd Wigley ac Elinor Bennett. Mae ganddynt ddau o blant.
Gwahanodd oddi wrth ei gŵr yn 2017 ac yn fuan wedyn cafodd ddiagnosis o ganser y fron a chafodd driniaeth yn ystod hanner cyntaf 2018. Mae'n cario y genyn BRCA1 sy'n cynyddu'r risg o gael canser y fron ond penderfynodd beidio cael mastecomi rhai blynyddoedd ynghynt oherwydd prysurdeb ei gyrfa. Wedi'r driniaeth cemotherapi cafodd fastecomi dwbl a llaw-driniaeth i ail-adlunio'r fron.[1]
Priododd ei chymar Natalie yn Ninbych-y-pysgod ar 14 Rhagfyr 2019.[2]
Disgyddiaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ How the first royal harpist fought cancer and found new love (en) , Wales Online, 18 Tachwedd 2018.
- ↑ Catrin Finch: Former royal harpist marries partner in Tenby (en) , BBC News, 21 Rhagfyr 2019.