Nant Brân

afon ym Mhowys

Afon yn ne Powys yw Nant Brân. Gorwedda i'r gogledd-orllewin o Aberhonddu, Brycheiniog. Ei hyd yw tua 9 milltir.

Nant Brân
Nant Brân ger ei tharddle
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9536°N 3.4758°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu ym Mynydd Epynt ger Twyn Rhyd-car (454 m). Llifa ar gwrs deheuol i lawr trwy gwm coediog, gan lifo heibio i bentrefi bychain Blaendyryn a Llanfihangel Nant Brân, i aberu yn Afon Wysg ger pentref Aberbrân, ychydig o filltiroedd i'r gorllewin o Aberhonddu.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.