Aberbrân

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Trallong, Powys, Cymru, yw Aberbrân.[1][2] Mae'n gorwedd yn ardal Brycheiniog ychydig o filltiroedd i'r gorllewin o Aberhonddu.

Aberbrân
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9558°N 3.4794°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN984296 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Enwir y pentref ar ôl aber afon fechan Nant Brân sy'n aberu yn Afon Wysg ger y pentref. Ceir pont gerllaw sy'n dwyn y ffordd wledig, sy'n dringo i gyfeiriad Mynydd Epynt i'r gogledd, dros yr afon. Ymuna'r ffordd honno â'r briffordd A40 fymryn i'r de o Aberbrân.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.