Blaendyryn

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref gwledig bychan wrth odrau deheuol Mynydd Epynt yn ne Powys yw Blaendyryn (cyfeiriad grid SN932368).

Blaendyryn
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.019767°N 3.557074°W Edit this on Wikidata

Gorwedd yn ardal Brycheiniog tua 7 milltir i'r gogledd-orllewin o Aberhonddu, ar ben y lôn sy'n arwain i fyny o'r A40 trwy gwm Nant Brân. Y pentref agosaf yw Llanfihangel Nant Brân, tua milltir i'r de. I'r gogledd o Flaendyryn mae ardal waharddedig ymarfer tanio y MOD yn dechrau.

Blaendyryn