Nant y Groes

afon yng Ngogledd Cymru

Afon yn Sir Conwy, Cymru, yw Nant y Groes. Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Bae Colwyn. Ei hyd yw tua 3 milltir.

Nant y Groes
Cwm Nant y Groes
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Tardda Nant y Groes mewn llyn bychan iawn mewn coedwig ychydig i'r de o bentref Bryn-y-maen. Mae'n llifo ar gwrs i gyfeiriad y gogledd heibio i'r dwyrain o Fryn-y-maen ac i lawr trwy gwm i gyffiniau Neuadd Nant-y-glyn. Rhwng Bae Colwyn a Hen Golwyn mae'n llifo dan yr hen A55 ac heibio i Barc Eirias. Wedyn mae'n llifo dan yr A55 ei hun i aberu ym Môr Iwerddon tua chwarter milltir i'r dwyrain o Pier Bae Colwyn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 116 Dinbych a Bae Colwyn.