Bryn-y-maen

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Pentref bychan yng nghymuned Bae Colwyn, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bryn-y-maen.[1][2] Mae'n gorwedd yn y bryniau tua 3 milltir i'r de o dref Bae Colwyn ar ymyl ddwyreiniol Dyffryn Conwy.

Bryn-y-maen
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr220 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.27137°N 3.746695°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Mae'n bentref ar wasgar o gwmpas cyffordd wledig. Mae ffyrdd yn cysylltu'r pentref â'r A55 ger Glan Conwy, Mochdre a Bae Colwyn i'r gogledd, gyda Pentrefelin i'r gorllewin, Betws yn Rhos i'r dwyrain a Llanrwst i'r de.

I'r de-ddwyrain o'r pentref ceir Mynydd Llanelian (336 m). Mae Bryn-y-maen yn adnabyddus yn lleol fel lleoliad Gwarchodfa Achub Anifeiliaid yr RSPCA.

Bryn-y-maen o Fynydd Llanelian

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021