Naomi Jones
Mae Naomi Jones (ganwyd Tachwedd 1955) wedi bod yn weithwraig yn y diwydiant darlledu yng Nghymru ers canol yr 1970au. Bu'n gyflwynydd teledu ac yna cynhyrchydd teledu Cymraeg.
Naomi Jones | |
---|---|
Ganwyd | Tachwedd 1955 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu |
Bywyd cynnar
golyguGaned Naomi Jones yn un o tri o blant i'r cerflunydd Jonah Jones a'r awdur Iddewig, Judith Maro a magwyd hi yn Eifionydd lle'r oedd gan ei thâd stiwdio yn Nhremadog.
Gyrfa
golyguDaeth yn gyflwynydd ar raglen Gymraeg BBC Cymru i blant a phobl ifanc, Bilidowcar yn yr 1970au.[1] Bu'n actio am gyfnod yn y gyfres ddrama Dinas.[2]
Aeth ymlaen i sefydlu cwmni animeiddio, Cartŵn Cymru gan gynhyrchu cyfresi animeiddio gwreiddiol yn y Gymraeg. Un o'u cyfresi mwyaf poblogaidd oedd Hanner Dwsin sef cartŵn am anturiaethau grŵp pop 'Hanner Dwsin'.[3]
Mae'n gynhyrchydd i gwmni Cartŵn Cymru sydd wedi eu lleoli yn Abertawe.[4] hefyd yn gyfrifol am gyfresi animeiddio eraill megis Testament: The Bible in Animation (1996); Gwr y Gwyrthiau / The Miracle Maker (2000); Otherworld/Y Mabinogi (2003) a Friends and Heroes (2007-2008).
Bywyd personol
golyguMae ganddi ddau o blant. Mae'n byw yn y Mwmbwls wedi blynyddoedd yng Nghaerdydd.
Dolenni allanol
golygu- Naomi Jones ar wefan Internet Movie Database
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32316256
- ↑ Dewi Llwyd a Naomi Jones. BBC Cymru (26 Medi 2010). Adalwyd ar 28 Mehefin 2019.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-11. Cyrchwyd 2018-11-08.
- ↑ https://beta.companieshouse.gov.uk/officers/H_HJwKAnFMXtse7eYwQgcIu0DS8/appointments[dolen farw]