Dinas (cyfres deledu)

Opera sebon Cymraeg oedd Dinas oedd yn dilyn hynt a helynt rhai o Gymry Cymraeg Caerdydd wrth iddynt gydweithio, cyd-fyw a chymdeithasu yn y Brifddinas. Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru a darlledwyd dros 100 pennod o'r gyfres rhwng 1985 ac 1991.

Dinas
Genre Opera sebon
Serennu
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Darllediad
Darllediad gwreiddiol 19 Medi 1985 – 1991

Crynodeb golygu

Teulu canolog y gyfres yw’r teulu Ambrose, un o deuluoedd llewyrchus y brifddinas gyda’r penteulu, Paul Ambrose yn rhedeg cwmni llwyddiannus ei deulu Ambrose International. Mae Paul yn teithio’r byd, o Hong Kong i Efrog Newydd, gan adael ei wraig Helen a’i ferch Miriam gartref yn Melbourne House i gecru a ffraeo ymysg ei gilydd. Nid yw Helen yn gweithio, ond treulia ei dyddiau yn ymlacio, siopa a chiniawa gyda ffrindiau, tra mae Miriam ei merch ddwy ar bymtheg yn mynychu’r ysgol breifat ac yn aros allan yn hwyr gyda’i ffrindiau.

Ffrind pennaf Helen Ambrose yw Ruth Gregory, dynes fusnes llwyddiannus sy’n byw i’w gwaith ac yn rhedeg y cwmni recriwtio GALW ac ar fin sefydlu partneriaeth fusnes â Paul Ambrose. Mae hi’n briod â Robin Gregory, newyddiadurwr i’r South Wales Standard sy’n arbenigo mewn newyddiaduraeth fusnes a materion ariannol, ac sy’n treulio llawer o’i amser yn yfed wisgi yn Mistro y Sgwner yn y Bae.

Ynghyd â’u prif fusnes mae gan yr Amrboses fflatiau y maent yn eu gosod ar rent, ac yma y mae rhai o gyn-fyfyrwyr coleg Glannau Hafren (o’r gyfres Coleg) bellach yn byw. Mae Elwyn Scourfield wedi llwyddo i gael swydd dda gyda chwmni electroneg Intern, tra mae ei gyd-fyfyrwyr Carys Jones a Dylan Pierce a’u bryd ar yrfa yn y cyfryngau er bod cael swydd heb gerdyn undeb yn profi’n anoddach na’r disgwyl. Yma hefyd y mae Helga Lewis, un o weithwyr uchelgeisiol cwmni GALW sydd a’i bryd ar lwyddo ym maes recriwtio.

Yn chwilio am swydd hefyd y mae Richard Morris, cyn-ddarlithydd drama yng ngholeg Glannau Hafren, cyn iddo ddod ar draws Peter Jennings sy’n rhedeg y cwmni annibynnol Lens. Ai cynhyrchiad diweddaraf y cwmni ‘Ieuan’ fydd llwyddiant neu fethiant nesaf S4C?

Yn fan cyfarfod i’r cymeriadau i gyd y mae Bistro y Sgwner a chlust barod Jo Benson y rheolwraig. Yma y gwelwn fywydau’r cymeriadau yn cyd-daro a chyd-blethu i ffurfio naratif dramatig a chyffrous cyfres gyntaf Dinas.

Manylion Pellach golygu

Teitl Gwreiddiol: Dinas

Blwyddyn: 1985

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 19 Medi 1985

Cyfarwyddwr: Graham Jones/ Meredydd Owen/ Bryn Richards/ Ieuan Davies

Sgript gan: Gareth Miles/ Dwynwen Berry/ Geraint Lewis/ Wil Roberts/ Angharad Jones/ Geraint Jones/ Siwan Jones/ Manon Rhys

Cynhyrchydd: Graham Jones

Cwmnïau Cynhyrchu: HTV Cymru ar gyfer S4C

Genre: Drama, Opera sebon

Cast a Chriw golygu

Prif Gast golygu

Cast Cefnogol golygu

  • Dt. Brif Arolygydd Jim Butler – David Lyn
  • Dt. Arolygydd David Humphreys – Huw Ceredig
  • Sarah Knowles – Gillian Elisa
  • Phil Jarvis – Noel Williams
  • Sian Wyn – Helen Wyn

Dylunio golygu

  • Hywel Morris/ Haydn Morgan

Cerddoriaeth golygu

Sain golygu

  • Mick Perry/ Derek Edwards

Golygu golygu

  • Keith Farmer / Bob McAleese

Cydnabyddiaethau Eraill golygu

  • Camera – Bill Spiers, Terry Humphreys
  • Lluniau – Alan Carter, Keith Jones
  • Cymysgydd Lluniau – Ros Gatti
  • Dybio – Ralph Evans, Phil Robinson
  • Goleuo – Peter Stanton
  • Coluro – Carole Williams
  • Gwisgoedd – Sian Longstaffe
  • Graffeg – Stephanie Aplin
  • Llwyfannu – Mererid Arch, Hywel Watkins
  • Rheolwr Llawr – Iwan Evans
  • Rheolwr y Cynhyrchiad – Dennis Morgan
  • Cynorthwyydd y Cynhyrchiad – Nia Edwards, Melva Bowen

Manylion Technegol golygu

Fformat Saethu: Fideo

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 4:3

Gwlad: Cymru

Llinell Werthu'r Poster: Dinas Caerdydd, Cymry Dinas Caerdydd, pobol byd busnes, pobol y cyfryngau, pobl efo pres, pobol fasa’n lecio tasa ganddo nhw bres, pobol wnaiff unrhywbeth am bres!

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Dinas ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.