Jonah Jones
Cerflunydd arlunydd a nofelydd oedd Jonah Jones (17 Chwefror 1919 - 29 Tachwedd 2004). Cafodd ei eni yn Swydd Durham ond roedd yn byw yng Nghymru ers 1948 gan agor gweithdy yn Nhremadog. Roedd yn briod â’r awdures Judith Maro.
Jonah Jones | |
---|---|
Ganwyd | 17 Chwefror 1919 ![]() Tyne a Wear ![]() |
Bu farw | 29 Tachwedd 2004 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Galwedigaeth | dylunydd graffig, cerflunydd ![]() |
Priod | Judith Maro ![]() |
Roedd Jonah Jones yn gweithio mewn sawl cyfrwng. Torrodd llythrennau mewn llechen, cerfiodd mewn maen a chreodd penddelwau mewn efydd. Roedd hefyd yn artist gwydr lliw ac yn arlunydd mewn dyfrlliw. Dylanwadwyd ei waith gan ddelweddaeth Gristnogol, chwedlau y Mabinogi a thirwedd Cymru. Yn ogystal, ysgrifennodd ddwy nofel, arweinlyfr am lynnoedd gogledd Cymru, casgliad o ysgrifau a bywgraffiad y pensaer enwog Syr Clough Williams- Ellis.
Mae’n enwog am ei benddelwau efydd o Syr Clough, Bertrand Russell a John Cowper Powys, ei gofebion i Dylan Thomas a Lloyd George yn Abaty San Steffan, a hefyd ei gerfluniau ar adeilad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Llyfryddiaeth Golygu
- A Tree Mai Fall (1980) - nofel
- Zorn (1986) - nofel
- The Lakes of North Wales (1983) - arweinlyfr
- The Gallipoli Diary (1989) - ysgrifau
- Clough Williams-Ellis: Architect of Portmeirion Seren Publishing, (1997) – bwygraffiad
Dolenni allanol Golygu
- Cofio Jonah Jones - Prosiect i gofnodi a dathlu bywyd a gyrfa Jonah
- Cofysgrif Jonah Jones , The Guardian
- Cofysgrif Jonah Jones, The Independent
- Jonah Jones plaque recordiwyd ar openplaques.org