Nathan o Gaza
Diwinydd a llenor Iddewig oedd Nathan Benjamin ben Elisha ha-Levi Ghazzati neu Nathan o Gaza (1643–1680) (Hebraeg: נתן העזתי) oedd yn un o broffwydi Sabbatai Zevi.
Nathan o Gaza | |
---|---|
Ganwyd | 1644 Jeriwsalem |
Bu farw | 12 Ionawr 1680 Sofia |
Galwedigaeth | llenor, rabi |
Ganwyd yn Jeriwsalem yn fab i Iddew Ashcenasi o'r Almaen. Astudiodd y Talmwd a'r Cabala yn Jeriwsalem dan Jacob Hagiz, ac yna symudodd i Gaza, tarddiad ei enw "Ghazzati." Pan ymwelodd Sabbatai Zevi â Gaza wrth iddo ddychwelyd o Gairo, daeth yn gyfeillgar â Nathan. Datganodd disgyblion Sabbatai i Nathan ganfod testun hynafol oedd yn profi taw Sabbatai oedd y Meseia, a honodd Nathan taw ef oedd atgyfodiad Elijah. Yng ngwanwyn 1665, proffwydodd Nathan y bydd y Meseia yn ymddangos y flwyddyn nesaf, yn caethiwo'r swltan, ac yn sefydlu grym Israel dros holl genhedloedd y byd. Bydd Sabbatai yn gorchfygu gwledydd eraill y byd, gan roi Ymerodraeth yr Otomaniaid yng ngofal Nathan.[1]
Gan yr oedd rabïaid Jeriwsalem yn wrthwynebus i Sabbatai a'i ddilynwyr, datganodd Nathan taw Gaza oedd dinas sanctaidd y grefydd Iddewig. Taenodd enw'r Meseia trwy ddanfon cylchlythyrau o Balesteina i gymunedau yn Ewrop, ac ymwelodd â phrif ddinasoedd Ewrop, Affrica, ac India. Cefnogodd Nathan Sabbatai Ẓebi hyd yn oed ar ôl i Sabbatai troi'n Fwslim, ond paratodd Nathan i adael Palesteina am Smyrna rhag ofn iddo gael ei garcharu neu ei ladd. Ysgymunwyd holl ddilynwyr Sabbatai gan y rabïaid, Nathan yn benodol ar 9 Rhagfyr 1666, a rhybuddiwyd i bobl beidio â siarad iddo. Aeth Nathan i Smyrna am ychydig o fisoedd cyn teithio i Adrianople ar ddiwedd mis Ebrill 1667 a pharhaodd i gyhoeddi ei gredoau, gan annog Sabbataieaid Adrianople i ddiddymu ymprydau'r 17eg o Tammuz a'r 9fed o Ab.[1]
Teithiau yn Ewrop
golyguCafodd ei ysgymuno am eildro, o Adrianople, ac aeth ag ychydig o'i ddilynwyr i Salonica, ac ymlaen i Chios a Corfu. Cyrhaeddodd Fenis ym mis Mawrth 1668, a chafodd ei orfodi gan rabiniaeth a chyngor y ddinas i ysgrifennu cyfaddefiad taw ei ddychymyg oedd ei broffwydoliaethau. Anogodd Iddewon Fenis i Nathan deithio i Livorno, lle'r oedd Iddewon y ddinas honno yn elyniaethus iddo. Dihangodd Nathan i Rufain, ond er iddo wisgo cuddwisg cafodd ei adnabod a'i alltudio. Aeth i Livorno'n wirfoddol, a llwyddodd i ennill ychydig o ddilynwyr yno. Dychwelodd i Adrianople, a theithiodd am weddill ei oes. Bu farw yn Sofia ym 1680.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) GHAZZATI, NATHAN BENJAMIN BEN ELISHA HA-LEVI (called also Nathan Benjamin Ashkenazi). 1906 Jewish Encyclopedia. Adalwyd ar 3 Tachwedd 2012.