NatureScot
Mae NatureScot (tan fis Awst 2020 Scottish Natural Heritage; Gaeleg: Buidheann Nàdair na h-Alba) yn awdurdod sy'n gyfrifol am warchod treftadaeth naturiol yr Alban. Fe'i sefydlwyd o dan ei enw blaenorol Scottish Natural Heritage (SNH) o dan Ddeddf Treftadaeth Naturiol (Yr Alban) 1991 a daeth yr asiantaeth yn weithredol yn 1992.[1]. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddwyd y byddai SNH yn cael ei ail-frandio fel NatureScot, fodd bynnag byddai ei bersona cyfreithiol a’i swyddogaethau statudol yn aros heb eu newid. Daeth y newid i rym ar 24 Awst 2020.[2][3]
Enghraifft o'r canlynol | corff cyhoeddus anadrannol |
---|---|
Rhan o | Llywodraeth yr Alban |
Dechrau/Sefydlu | 1990 |
Pencadlys | Inverness |
Gwefan | https://www.nature.scot/ |
Mae ffocws NatureScot ar warchod amrywiaeth amgylchedd naturiol yr Alban. Mae'r awdurdod yn cynghori llywodraeth yr Alban ac yn comisiynu mesurau i hyrwyddo cadwraeth natur ar ei rhan. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, rheoli gwarchodfeydd natur (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG). Mae gan NatureScot 800 o weithwyr ac mae ganddo swyddfeydd mewn sawl rhanbarth yn yr Alban. Symudwyd y pencadlys o Gaeredin i Inverness yn 2003/2004. Yn dod i rym ar 24 Awst 2020, newidiwyd enw'r awdurdod i NatureScot.[4]
Cyfrifoldebau
golyguNodau cyffredinol NatureScot fel y’u sefydlwyd yn Neddf Treftadaeth Naturiol (Yr Alban) 1991 yw:[5]
- Sicrhau cadwraeth a chyfoethogi treftadaeth naturiol yr Alban
- Meithrin dealltwriaeth a hwyluso mwynhad o dreftadaeth naturiol yr Alban
At ddibenion y Ddeddf, diffinnir treftadaeth naturiol yr Alban fel fflora a ffawna'r Alban, ei nodweddion daearegol a ffisiograffigol a'i harddwch naturiol a'i hamwynder. Mae cyfrifoldebau penodol NatureScot yn cynnwys:
- Rhoi cyngor i lywodraeth yr Alban ar ddatblygu a gweithredu polisïau sy’n berthnasol i dreftadaeth naturiol yr Alban
- Lledaenu gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â threftadaeth naturiol yr Alban i'r cyhoedd
- Cynnal a chomisiynu ymchwil yn ymwneud â threftadaeth naturiol yr Alban
- Sefydlu, cynnal a rheoli ardaloedd cadwraeth dynodedig yn yr Alban
Enghreiffiau o waith NatureScot
golyguMae NatureScot bellach yn berchen ar ynysoedd fel Gogledd Rona, sydd â phoblogaethau sylweddol o forloi llwyd a'r morloi cyffredin. Bu hefyd yn ymwneud â chael gwared ar y poblogaethau o'r draenog a gyflwynwyd i Ynysoedd Heledd, gan ei fod yn cael effaith negyddol iawn ar boblogaethau magu pibydd y mawn, cwtiad torchog a'r pibyddion coesgoch yno.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ The Natural Heritage (Scotland) Act 1991, cyrchwyd 8 Mawrth 2021
- ↑ "National nature agency to become 'NatureScot'". Scottish Natural Heritage. 19 November 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-19. Cyrchwyd 19 November 2019.
- ↑ "NatureScot Brand". NatureScot. Cyrchwyd 2 September 2020.
- ↑ NatureScot Brand, cyrchwyd 8 Mawrth 2021
- ↑ ""Natural Heritage (Scotland) Act 1991"". Gwefan Legislation.gov.uk. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.