Necropolis Giza
Mae Necropolis Giza yn safle archeolegol ar Lwyfandir Giza, ar gyrion Cairo, Yr Aifft. Mae'r casgliad o henebion ar y safle yn cynnwys y tri cyfadeilad o byramidiau a elwir y Pyramidiau Fawr, y cerflun anferth a adweinir fel y Sffincs Mawr, nifer o fynwentydd, pentref gweithwyr a safle diwydiannol. Mae wedi ei leoli tua 9 km (5 milltir) i mewn i'r anialwch o dref hynafol Giza ar Afon Nîl, a thua 25 o gilomedrau (12.5 milltir) i'r de orllewin o ganol dinas Cairo.
Math | Ancient Egyptian necropolis |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Memphis |
Sir | Giza Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 16,359 ha |
Cyfesurynnau | 29.983333°N 31.133333°E |
Roedd y pyramidiau yn boblogaidd yn y cyfnod Helenistaidd, rhestrwyd y Pyramid Mawr gan Antipater o Sidon fel un o Saith Rhyfeddod y Byd, bellach dyma'r unig un o'r saith ryfeddod hynafol sy'n dal i fodoli.[1]
Y Pyramidiau a'r Sffincs
golyguMae Pyramidiau Giza yn cynnwys Y Pyramid Mawr (a elwir yn Byramid Cheops neu Khufu), Pyramid Khafre (neu Chephren) sydd rywfaint yn llai ac yn sefyll ychydig gannoedd o fetrau i'r de-orllewin o'r Byramid Mawr, pyramid cymharol fach Menkaure (neu Mykerinos) ychydig o gannoedd o fetrau ymhellach; Y Sffincs Mawr sydd yn gorwedd ar ochr ddwyreiniol y safle a phyramidiau’r breninesau.
Adeiladu'r Pyramidiau
golyguBu llawer o ddamcaniaethau i esbonio sut y cafodd y pyramidiau eu hadeiladu. Mae'r damcaniaethau yn cynnwys:
- y defnydd o rampiau allanol
- y defnydd o graeniau
- y defnydd o ramp mewnol. Cafodd y syniad hwn ei ddatblygu gan Jean-Pierre Houdin, pensaer Ffrengig. Mae o hefyd wedi gwneud modelau cyfrifiadurol manwl o'r Pyramid Mawr i geisio profi ei ddamcaniaeth. Mae Houdin yn dweud bod y rampiau yn troelli i fyny, a bod tystiolaeth o'r arddull i’w gweld yng nghorneli blaen y pyramidiau.
- y defnydd o rac a phiniwn. Datblygwyd y ddamcaniaeth hon gan Paul Hai yn2006 a seilwyd ar ymateb cafodd Herodotus o Halicarnassus pan holodd yr Eifftiaid hynafol eu hunain am sut cafodd Pyramidiau Giza eu hadeiladu tua 450cc ac ar ddyfyniadau Beiblaidd o broffwydoliaeth Eseciel [2].
Pwrpas y Pyramidiau
golyguCredir fod y Pyramidiau yn Giza a llefydd eraill wedi eu hadeiladu i gartrefu gweddillion y Pharoaid ymadawedig a oedd yn rheoli dros yr Hen Aifft. Credwyd bod cyfran o enaid y Pharo a elwid yn ka yn aros gyda'r corff. Roedd gofal priodol o'r olion yn angenrheidiol er mwyn i'r cyn Pharo cyflawni ei ddyletswyddau newydd fel brenin y meirw. Damcanir bod y pyramid yn gwasanaethu fel bedd i'r Pharo a hefyd fel storfa ar gyfer y gwahanol eitemau byddai angen iddo yn y byd a ddaw. Roedd pobl yr Hen Aifft yn credu bod marwolaeth ar y Ddaear yn dechrau'r daith i'r byd nesaf a bod pêr-eneinio corff y Brenin a'i gladdu o fewn y pyramid yn ei ddiogelu, yn caniatáu ei thrawsnewidiad ac yn sicrhau ei esgyniad i'r byd a ddaw.[3]
Pentref y Gweithwyr
golyguEr mwyn adeiladu'r Pyramidiau byddid angen gweithlu enfawr; gan gynnwys chwarelwyr, cerflunwyr, crefftwyr, llafurwyr, seiri coed ac ati a nifer o weithwyr wrth gefn i gyflawni anghenion y sawl oedd yn gyfrifol am yr adeiladwaith megis pobyddion, bragwyr, cludwyr dwr ac eraill.
Pan ymwelodd yr hanesydd Groegaidd Herodotus a Giza yn 450 CC, dywedwyd wrtho gan offeiriaid o'r Aifft bod y Pyramid Mawr wedi cymryd 400,000 o ddynion 20 mlynedd i'w adeiladu, yn gweithio mewn tair sifft o 100,000 o ddynion ar y tro."
Mae safle pyramidiau Giza wedi ei amgylchynu gan wal gerrig mawr, y tu allan i'r wal canfuwyd pentref lle'r oedd gweithwyr y pyramidiau yn cael eu cartrefu. Mae'r pentref wedi ei leoli i'r de-ddwyrain o safleoedd Khafre a Menkaure. Ymhlith y darganfyddiadau yn y pentref mae lle cysgu cymunedol, poptai, bragdai a cheginau (gyda thystiolaeth yn dangos bod bara, cig eidion a physgod yn rhan o brif nwyddau'r diet), ysbyty a mynwent (lle mae rhai o'r sgerbydau a ganfuwyd gydag arwyddion o drawma sy'n gysylltiedig â damweiniau ar safle adeiladu).[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ancient History Encyclopedia - The Seven Wonders [1] adalwyd 7 Rhagfyr 2014
- ↑ Ezeciel 1-29 Decoded (nodyn dim ond 28 adnod sydd ym mhenod 1 Eseciel) [2] adalwyd 7 Rhagfyr 2014
- ↑ "Egypt pyramids". culturefocus.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-02. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2014.
- ↑ [3] The Lost City of the Pyramids adalwyd 7 Rhagfyr 2014