Y Sffincs Mawr

Mae'r Sffincs Mawr yn heneb o'r Hen Aifft sydd yn rhan o safle Necropolis Giza ger Cairo yng ngwlad gyfoes yr Aifft. Mae'n sefyll mewn lle isel i'r de o Byramid y Pharo Khafre (Chephren) ar lan orllewinol yr Afon Nîl.

Y Sffincs Mawr
Great Sphinx of Giza May 2015.JPG
Mathsphinx, atyniad twristaidd, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
LleoliadNecropolis Giza, Yr Aifft Edit this on Wikidata
SirGiza Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Aifft Yr Aifft
Cyfesurynnau29.9753°N 31.1378°E Edit this on Wikidata
Hyd73.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolYr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Arddull pensaernïolancient Egyptian architecture Edit this on Wikidata
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Mae'r Sffincs yn gerflun carreg o greadur gyda phen dynol a chorff llew. Dyma'r cerflun coffaol mwyaf yn yr Henfyd; mae ei gorff yn 200 troedfedd (60m) o hyd a 65 troedfedd (20m) o uchder. Mae ei wyneb yn 13 troedfedd (4m) o led.

Mae casgliad o dystiolaeth archeolegol a daearegol yn dangos bod y Sffincs yn llawer hŷn na 4ydd Brenhinllin yr Hen Aifft (2575-2467 CC) a'i bod wedi ei adfer gan y Pharo Khafre yn ystod ei deyrnasiad ef (tua 2558–2532 CC).

Mae'r enw Sffincs yn golygu Crogwr ond nid yw pwrpas y Sffincs yn hysbys. Mae rhai archeolegwyr yn awgrymu ei fod yn gofeb i Pharo ac eraill ei fod yn gweithredu fel rhyw fath o dalismon neu warcheidwad y duwiau, tra fo ysgolheigion eraill yn credu bod y Sffincs yn ddyfais ar gyfer arsylw seryddol ac yn nodi safle'r haul yn codi ar ddiwrnod Alban Eilir yng nghytser Leo / y Llew.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.