Cydbwysedd grym (cysylltiadau rhyngwladol)
Dosbarthiad grym sefydlog rhwng gweithredyddion rhyngwladol, gan amlaf gwladwriaethau, yw cydbwysedd grym. Mae'r cydbwysedd grym yn agwedd bwysig o fewn yr ysgol realaidd yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol.
Gall cydbwysedd grym cymryd sawl ffurf. Mae'n bosib i bwerau imperialaidd greu cydbwysedd naill ai drwy dra-arglwyddiaeth un uwchbwer – megis y Pax Romana neu'r Pax Britannica – neu rhwng sawl ymerodraeth neu bŵer mawr, megis Cytgord Ewrop yn y 19g. Mae'n bosib i wladwriaethau ffurfio cyfundrefnau megis cynghreiriau milwrol, blociau masnach, a sefydliadau rhyngwladol i wella'r cysylltiadau rhyngddynt ac i gadw'r cydbwysedd grym. Gall y drefn ryngwladol bwysleisio'r posibilrwydd o ryfel er mwyn annog y wladwriaethau i beidio ag ansefydlogi'r cydbwysedd grym: gelwir y fath sefyllfa yn gydbwysedd braw neu gydbwysedd bygythiad.
Nid yw sefydlogrwydd y cydbwysedd grym yn amlwg bob tro. Yn ystod y Rhyfel Oer, cafodd Ewrop ei rhannu yn feysydd dylanwad y ddau uwchbwer: gwledydd cyfalafol y gorllewin, aelodau NATO, dan ddylanwad Unol Daleithiau America; a gwledydd comiwnyddol y dwyrain, aelodau Cytundeb Warsaw, dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd. Nodai'r sefyllfa ddeubegwn hon gan ras arfau niwclear rhwng y ddwy ochr. Cafodd y syniadaeth y tu ôl i'r strategaeth hon ei galw'n "Cyd-ddinistr Sicr": yn ôl ei chefnogwyr, buasai ataliaeth niwclear yn atal y ddwy ochr rhag mynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. Yn ôl ei gwrthwynebwyr, system hynod o danllyd oedd hyn a oedd yn agos iawn at achosi rhyfel niwclear a dinistr ar raddfa eang. Ni frwydrodd yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn uniongyrchol yn erbyn ei gilydd, er iddynt gefnogi ochrau gwrthwynebol mewn "rhyfeloedd trwy ddirprwy" a rhyfeloedd cyfyngedig megis Rhyfel Fietnam. Yn y diwedd, cwympodd yr Undeb Sofietaidd heb i'r un ochr ollwng bom atomig ar yr ochr arall.