Nereid (mytholeg)

(Ailgyfeiriad o Nereidau)

Mae Nereid yn enw ar y nymffod morol, unrhyw un o 50 merch (30 yn ôl Homer) Nereus a Doris ym mytholeg Roeg.

Nereid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o gymeriadau chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Mathnymff Roeg, Greek water deities Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPherusa, Ploto, Arethusa Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymhlith yr enwocaf yr oedd Amphitrite, Galatea, Thetis, Erato, Laomedia, Autonoe, Calypso, Arethusa, Eurydice a Menippe.

Codid allorau i'r Nereidiaid ar lan y môr ac offrymid llefrith, mêl, olew olewydden a chig geifr iddyn nhw. Roeddent yn byw mewn ogofâu morol. Eu dylestwydd oedd gwneud ewyllys Poseidon, duw'r môr. Roeddent yn hoff o'r Halcyonaid ac yn medru codi neu ostyngu tonnau'r môr; am hynny roedd yn arfer gan morwyr eu cyfarch cyn hwylio a gofyn eu hamddiffyn. Fe'i darlunnir fel merched ifainc prydferth yn eistedd ar ddolffinau, weithiau'n dal tryfer Triton neu flodau yn eu dwylo.

Mae cerflun o'r enw 'Nereid' (1996) gan Nathan David (1930–2017) i'w weld ar Ffordd y Brenin, Caerdydd.

Ffynhonnell

golygu
  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)