Nereid (mytholeg)
Mae Nereid yn enw ar y nymffod morol, unrhyw un o 50 merch (30 yn ôl Homer) Nereus a Doris ym mytholeg Roeg.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp o gymeriadau chwedlonol Groeg |
---|---|
Math | nymff Roeg, Greek water deities |
Yn cynnwys | Pherusa, Ploto, Arethusa |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymhlith yr enwocaf yr oedd Amphitrite, Galatea, Thetis, Erato, Laomedia, Autonoe, Calypso, Arethusa, Eurydice a Menippe.
Codid allorau i'r Nereidiaid ar lan y môr ac offrymid llefrith, mêl, olew olewydden a chig geifr iddyn nhw. Roeddent yn byw mewn ogofâu morol. Eu dylestwydd oedd gwneud ewyllys Poseidon, duw'r môr. Roeddent yn hoff o'r Halcyonaid ac yn medru codi neu ostyngu tonnau'r môr; am hynny roedd yn arfer gan morwyr eu cyfarch cyn hwylio a gofyn eu hamddiffyn. Fe'i darlunnir fel merched ifainc prydferth yn eistedd ar ddolffinau, weithiau'n dal tryfer Triton neu flodau yn eu dwylo.
Mae cerflun o'r enw 'Nereid' (1996) gan Nathan David (1930–2017) i'w weld ar Ffordd y Brenin, Caerdydd.
Ffynhonnell
golygu- J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)