Nest ferch Rhys ap Tewdwr

tywysoges yn Neheubarth
(Ailgyfeiriad o Nest ferch Rhys)

Roedd y Dywysoges Nest yn ferch i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (c. 1085 – m. cyn 1136; fl. 1100-1120).

Nest ferch Rhys ap Tewdwr
Ganwydc. 1085 Edit this on Wikidata
Bu farw1136 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
Blodeuodd1120 Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
TadRhys ap Tewdwr Edit this on Wikidata
MamGwladus ferch Rhiwallon ap Cynfyn Edit this on Wikidata
PriodGerallt o Windsor, Stephen Edit this on Wikidata
PartnerHarri I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
PlantHenry Fitz Roy, Angharad ferch Nest, Maurice FitzGerald, David FitzGerald, Robert Fitz-Stephen, William Fitz Gerald, Einion ab Owain ap Cadwgan ap Bleddyn Edit this on Wikidata
LlinachFitzGerald dynasty Edit this on Wikidata

Adwaenir Nest fel Helen Cymru oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.

Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerald de Windsor. Ymhlith ei phlant gan Gerallt o Windsor oedd ei ferch Angharad. Priododd Angharad â William de Barri, arglwydd Maenorbŷr; un o'i meibion oedd y llenor enwog Gerallt Gymro.

Cafodd fab gyda Harri I, brenin Lloegr, a gafodd yr enw Henry Fitz Roy. Lladdwyd ef pan oedd un un o arweinwyr y fyddin a ymosododd ar Ynys Môn yn 1157, yn ystod cyrch brenin Lloegr yn erbyn Owain Gwynedd. Cafodd Nest hefyd nifer o blant gan Stephen, cwnstabl castell Aberteifi, yn cynnwyd Robert Fitz-Stephen, arweinydd y fyddin Normanaidd gyntaf i groesi i Iwerddon i ddechrau'r goresgyniad Normanaidd yno.

Ffuglen golygu

Ysgrifennwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, sef Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).