Owain ap Cadwgan
Tywysog rhan o deyrnas Powys oedd Owain ap Cadwgan (bu farw 1116). Mae'n fwyaf adnabyddus am gipio Nest ferch Rhys ap Tewdwr o gastell Cenarth Bychan.
Owain ap Cadwgan | |
---|---|
Ganwyd | c. 1085 |
Bu farw | 1116 |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig, treisiwr |
Swydd | tywysog |
Tad | Cadwgan ap Bleddyn |
Owain oedd mab hynaf Cadwgan ap Bleddyn (1051-1111), tywysog rhan o Bowys. Ceir y cofnod cyntaf amdano yn 1106, pan laddodd Meurig a Griffri, meibion Trahaearn ap Caradog, oedd yn dal tiroedd yn Arwystli.
Yn 1109, syrthiodd Owain, mewn cariad a Nest ferch Rhys ap Tewdwr, gwraig Gerallt o Benfro (Gerald de Windsor), a thorrodd i mewn i gastell (Cenarth Bychan neu Cilgerran) a'i chipio. Ceisiodd Cadwgan berswadio ei fab i ddychwelyd Nest i'r gŵr, ond methodd. Addawodd justiciar Swydd Amwythig, Richard de Beaumais, diroedd eang yn rhodd i aelodau eraill o dŷ brenhinol Powys petaent yn ymuno mewn ymosodiad ar Gadwgan ac Owain. Meddiannwyd Ceredigion, a ffôdd Owain i Iwerddon; tra gwnaeth Cadwgan gytundeb heddwch a'r brenin na adawodd ond ychydig o diriogaeth yn weddill iddo. Yn ddiweddarach, caniataodd y brenin iddo gael Ceredigion yn ôl ar yr amod ei fod yn talu dirwy o £100 ac yn torri pob cysylltiad ag Owain.
Yn ddiweddarach, dychwelwyd Nest i'w gŵr, wedi iddi gael dau fab, Llywelyn ac Einion, gydag Owain. Yn 1114 ymosododd y brenin ar Gymru, ymosodiad wedi ei anelu yn erbyn brenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynan, yn bennaf. Gwnaeth Owain gynghrair a Gruffudd, ac enciliodd i Wynedd gydag ef. Wedi gwneud cytundeb heddwch, aeth y brenin ag Owain gydag ef i Normandi yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a gwnaeth ef yn farchog. Dychwelodd gyda'r brenin o Normandi yn 1115 ac yn 1116 cynorthwyodd y brenin i ymladd yn erbyn Gruffydd ap Rhys o Ddeheubarth. Roedd Gerald de Windsor, gŵr Nest, a'i ŵyr ym myddin y brenin hefyd, a chymerodd erf y cyfle i ddial, gan ymosod ar Owain pan nad oedd ond 90 gŵr gydag ef a'i ladd. Daeth y rhan fwyaf o Bowys yn awr i feddiant ei ewythr, Maredudd ap Bleddyn.
Llyfryddiaeth
golygu- John Edward Lloyd A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1911)
Ceir dwy nofel ramantaidd am hanes Nest ac Owain gan Geraint Dyfnallt Owen:
- Nest (1949)
- Dyddiau'r Gofid (1950)