Neuadd Cyfronydd
Adeiladwyd Neuadd Cyfronydd neu Neuadd Cyfronnydd ger pentrefan Cyfronydd, Llanfair Caereinion tua 1865 ar gyfer teulu Pryce Jones, wedi i neuadd gynharach ar y safle losgi'n ulw. Saif Neuadd Cyfronydd ar yr A458 rhwng Y Trallwng a Llanfair Caereinion ac mae'n eiddo i William a Ffion Hague. Ceir golygfeydd o Ddyffryn Banwy o'r ffenestri mawr a osodwyd yn nhu blaen y Neuadd. Am ryw reswm, nid yw'n ymddangos fod yr adeilad wedi'i gofrestru gan Cadw.
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Cyfronnydd |
Lleoliad | Cyfronydd |
Sir | Castell Caereinion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6629°N 3.2685°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pan werthwyd yr adeilad gan Maj Hamilton Pryce yn 1927 roedd ynddo 19 llofft a dim ond un lle chwech. Yn 1938 fe'i prynwyd am £7,250 gan Gyngor Sir Drefaldwyn er mwyn ei ddefnyddio fel ysgol i ferched. Addaswyd yr adeilad ar eu cyfer gan leihau nifer yr ystafelloedd gwely i 14 a rhoddwyd ynddo 4 ystafell folchi; roedd 44 erw o dir. Rhwng y 1990au a 2014, atgyweiriwyd yr adeilad gan ddau Sais: Jeff a Jean Bowskill, a hynny dros gyfnod o ddeg mlynedd; mae ganddo bellach 12.7 erw o dir a phwll nofio mewnol gyda sba moethus.[1]
Yn Ionawr 2015 prynwyd yr adeilad 10-llofft gan William a Ffion Hague.[2][3] Un o Fachynlleth oedd tad Ffion, Emyr, a arferai fod yn Drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Adeiladwaith
golyguCodwyd y Neuadd o frics golau, ar ffurf sgwâr, a hynny mewn arddull Victorianaidd. Mae'r ffenestri pren sash wedi'i hamgylchu gan garreg. Y nodwedd hynotaf, mae'n debyg, yw'r fynedfa tair llawr ar ffurf tŵr.[4]
Y Neuadd yn y 19eg ganrif
golyguY teulu Pryse-Jones
golyguRoeddd y Prysiaid yn ddisgynyddion i Bleddyn ap Cynfyn ac erbyn y 17g roedd Cyfronydd yn nwylo William, mab Oliver Pryce. Priododd William Pryce ferch o'r enw Margaret, a chawsant fab a alwyd yn Thomas (m. 1699?) ac a briododd Lydia (nee Lewis) o Arwystli. Yn 1733 perchennog Neuadd Cyfronydd oedd John Pryce ac yna Pryce Jones (1767-1858) gŵr a briododd deirgwaith. Gyda'i ail briodas i Jane Davies ehangwyd yr ystâd a daeth tiroedd a chwareli yn Aberllefenni ger Tal-y-llyn yn eiddo i'r teulu. John Davies o Fachynlleth oedd tad Jane. Cawsant fab o'r enw Robert Davies Jones, a newidiodd ei enw i gynnwys "Pryce" yn 1858 ac a briododd Jane Charlton o Apley, Swydd Lincoln a ganwyd iddynt fab o'r enw Athelstan Robert Pryce yn 1849.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.walesonline.co.uk; adalwyd 2015.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 9 Awst 2015
- ↑ www.countytimes.co.uk; Archifwyd 2015-07-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2015
- ↑ /www.shropshiremagazine.com;[dolen farw] adalwyd 2015
- ↑ www.archiveswales.org.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2015