Nguyen Van Hung
Mae Nguyen Van Hung (Fietnameg: Nguyễn Văn Hùng; Tsieineeg: 阮文雄; Pinyin: Ruǎn Wénxióng; ganwyd 1958) yn offeiriad Catholig o Fietnam ac yn actifydd hawliau dynol yn Taiwan. Cafodd ei gydnabod gan Adran Wladwriaeth yr Unol Daleithiau fel "arwr ceisio dod â chaethwasiaeth fodern i ben".[1]
Nguyen Van Hung | |
---|---|
Ganwyd | 21 Tachwedd 1958 De Fietnam |
Dinasyddiaeth | Fietnam |
Alma mater | |
Galwedigaeth | amddiffynnwr hawliau dynol, offeiriad Catholig |
Bywyd cynnar
golyguMagwyd Nguyen Van Hung mewn teulu dosbarth canol ger Talaith Bình Tuy yn Ne Fietnam, gyda dau frawd a phum chwaer. Pysgotwr oedd ei dad, ond bu farw ar ôl brwydr hir â salwch, gan orfodi'i fam, aelod o'r Eglwys Gatholig â'i gwreiddiau yng ngogledd y wlad, i ennill cyflog i'r teulu. Dilynodd Nguyen Van Hung yn ffydd ei fam.
Gadawodd Fietnam yn 1979 ar gwch gorlawn; cafodd ei achub gan long o Norwy ar ôl dim ond 36 awr a'i gludo i Japan. Ymunodd â Chymdeithas Genhadol St. Columban ar ôl iddo gyrraedd Japan.
Bu’n byw yn Japan am dair blynedd, gan astudio a chymryd amrywiaeth o swyddi i’w gynnal ei hun, gan gynnwys fel atgyweiriwr priffyrdd, gweithiwr ffatri ddur, a thorrwr beddau. Daeth i Taiwan am y tro cyntaf yn 1988 fel cenhadwr, ac wedi hynny aeth i Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia, i astudio mewn seminar. Cafodd ei ordeinio yn 1991 a dychwelodd i Taiwan y flwyddyn ganlynol (yn 1992).
Gweithio yn Taiwan
golyguSefydlodd Nguyen Van Hung 'Swyddfa Gweithwyr Mudol a Phriodferched Fietnam)' yn Sir Taoyuan (Dinas Taoyuan erbyn hyn) yn 2004 i gynnig cymorth i fewnfudwyr o Fietnam yn Taiwan. Fe wnaeth gorsaf radio Americanaidd Fietnamaidd Little Saigon Radio ac eraill ei helpu i rentu ail lawr ysgol ramadeg; mae dwy ystafell saith-deg troedfedd sgwâr yn cynnig lle cysgu, tra bod dwy arall yn cael eu defnyddio ar gyfer gofod swyddfa. Maent yn darparu dosbarthiadau Mandarin, ystafell a bwrdd, a chymorth cyfreithiol.
Oherwydd i Nguyen Van Hung amlygu cam-driniaeth yn erbyn llafurwyr a phriodferched tramor, gosododd Adran Wladol yr Unol Daleithiau Taiwan ar ei rhestr “Haen 2” ochr yn ochr â gwledydd fel Cambodia, oherwydd diffyg ymdrech llywodraeth y wlad i frwydro'n erbyn masnachu pobl. Profodd hynny'n embaras rhyngwladol mawr i lywodraeth yr ynys. Mae ei waith hefyd wedi ei wneud yn darged yn Taiwan.[2]